Bu farw Tony Curtis.
Un o’r ychydig ser go iawn a oedd yn weddill o oes aur Hollywood.
Nid oedd yn cael ei ysytyried fel actor arbennig o dalentog, ond yn hytrach fel rhywun a dawn arbennig – y ddawn o lenwi’r sgrin a dal y cynulleidfa.
Ond mae’na for a mynydd rhwng dau o’i brif gymeriadau – Sidney Falco yn y ‘Sweet Smell of Success‘ a Jerry yn ‘Some Like It Hot‘. Y naill yn greadur y cysgodion cyfryngol a’r llall yn dianc rhag y “mob” mewn sgert a sacsoffon!
O’i ddecreuad yn y theatr Yiddish yn Chicago aeth e trwy’r dosbarthiadau actio ewropiaidd ei naws ar ddiwedd y 40au cyn cyrraedd Hollywood. Roedd’na un peth mawr o’i blaid – roedd e’n hynod golygus! O ganlyniad roedd ei acen Bronx i’w glywed ble bynnag yr aiff e – fel swashbuckler, milwr Rhufeinig neu’r gwr ar y trapeze.
I bobl f’oedran i, mae partneriaeth Tony Curtis a Roger Moore yn y “Persuaders” yn aros yn y cof hefyd. Nosweithiau Sul blynyddoedd maith yn ol a phleserau ATV!
Roedd ei actio’n ymddangos yn rhywbethh hawdd iawn. Ond yn fy nhyb i roedd ‘na dipyn bach mwy y tu ol i’r gwr o dras Hwngariaidd a anwyd fel Bernie Schwartz. Pan fo angen, roedd ganddo’r “chops” actio i wneud marc dwfn.
Mae’na berfformiad disglair arall mae llawer wedi anghofio amdano – sef fel y carcharor gwyn yn “The Defiant Ones“. Fffilm a bortreadwyd dyn gwyn a dyn du mewn cyffion wedi iddynt ddianc o’r carchar. Roedd yn ffilm ddadleuol iawn yn y pumdegau ac un nad yw actor ansyleweddol yn penderfynu bod yn rhan ohoni.
Vale Bernard Schwartz – un o wynebau mwyaf cofiadwy’r 20fed canrif.
Vale Tony Curtis – un o fawrion oes aur y sgrin arian.
Hysbysiad Cyfeirio: Teyrnged i Tony Curtis, seren go iawn | Y Twll