Nol i’r Senedd

Wedi’r saga ffurfio llywodraeth, rydyn ni wedi cyrraedd golygfa newydd yn nrama wleidyddol Awstralia.

Mae’r aelodau seneddol yn ol yn Canberra gyda Llafur wrth y llyw gyda mwyafrif bregus.

Sut aiff hi ?

Mae gen i ofn na fydd y naill ochr na’r llall yn dilyn esiampl yr ASau annibynnol a gwyrdd.  Maen nhw am greu cyfundrefn newydd o ddadlau pynciau. Paradigm newydd yw’r term.  Hynny yw llai o weiddi di-effaith a mwy o siarad difrifol.

Yng ngeiriau anfarwol un o gymeriadau’r ffilm “The Castle” – “You’re dreaming”!

Fe fydd yr hen ffordd Awstraliaidd o wleidydda’n parhau – doed a ddelo. 

Mae Lalur am gadw pwer ac mae’r Glymblaid Geidwadol am ddisoldi’r llywodraeth.  Gwyn ein byd ynte !

Ac mae’na arwyddion cryf y bydd y cyfryngau’n chwarae eu rhan trwy bortreadu pob cwestiwn llosg fel “argyfwng” neu “rhwyg yn y rhengoedd”.

Rydyn ni’n byw yn oes yr “X Factor”.  Mae’na ennillwyr a’r sawl sy’n colli. 

Nid yw cymlethdod yn beth symyl neu boblogaidd erbyn hyn.

Igam ogam yr awn ni’n wleidyddol felly.  Fe fydd e’n hwyl am ychydig ond fe ddaw’r pen tost yn y man.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s