Dwy wlad, dwy iaith

Mae bwrw pleidlais yn fraint ac yn gyfrifoldeb. Yma yn Awstralia yr ydym yn cael ein gorfodi i’w wneud ac ar ddiwrnod lecsiwn mae’na gwyno byth a hefyd wrth i’m cyd-etholwyr aros i ddefnyddio eu pensils bach. Mae’na dipyn o gwyno gan bobl wrth iddyn nhw sefyll am gwpl o funudau oherwydd y ciw. Ond mae’na gwyno dyfnach hefyd. Cwyno am y “nhw” sy’n ar y ballot. Cwyno am fethiant y “nhw” a’r ffaith nad oes gan y “ni” ddewis. Y “ni” sy’n cael eu gorfodi i bleidleisio yn gwbl datgysylltiedig a”r “nhw” gwleidyddol. O ganlyniad mae iechyd ein cymdeithas ddinesig yn wan ac yn gwaethygu. Peryglus. Mae pethe’n wahanol sha north. Mae’na bleidleisio pwysig o flaen y Cymry a’r Gwyddyl y mis hwn, ac mae’na gyffro o gwmpas Môr Iwerddon. O bell yr wyf wedi cael blas ar yr ymgyrch etholiadol yng Nghymru a’r ymgyrch refferendwm yn Iwerddon. Ar y 7fed fe gawn weld beth ddaw allan o’r cawl gwleidyddol mwya difyr/difrifol ers 1974 tra ar y 22ain fe fydd pobl y 26 sir yn penderfynu a ddylid pobl o’r un rhyw gael priodi. Ond er bod ‘na gyffro o ran politics, mae’n ymddangos taw difaterwch sy’n teyrnasu tua’r gorllewin o ran iaith. Tra mae’na hen ddigon o Gymraeg (a Sgymraeg) o gwmpas y lle yng Nghymru ar bosteri, taflenni ac yn y blaen, nid oes llawer o’r Wyddelig yn perthyn i’r refferendwm ryfeddol sy’n debygol o weddnewid hen wlad pabyddol. Eironi wrth feddwl am y faith bod y ddadl am gydraddoldeb ! Pam felly ? Mae’r Wyddelig yn “brif iaith” Iwerddon yn ol y Cyfansoddiad, ond ar lawr gwlad mae hi a’i chefnogwyr yn ymladd y fath o frwydrau yr oeddem yn gwneud yn y 70 ac 80au. Mae’r Gymraeg, i raddau helaeth, wedi goroesi diolch i’r bobl a’u cymunedau, tra mae’r Wyddelig wedi bod yn fwy swyddogol-arwynebol na naturiol-cymdeithasol. Mae’na wers i Gymru yn hynny o beth. Ac mae’na gysylltiad (bregus o bosibl) yn ôl i Awstralia hefyd. Mae’n orfodol i blant ysgol ddysgu’r Wyddelig, ond ofer yw’r ymdrech honno i’r mwyafrif.  Yn wir, mae’r profiad yn chwerwi llawer o bobl. Ac yma yn Oz mae gennym ein cyfundrefn bleidleisio yr oeddwn yn sôn amdano ar y dechreu. Colli iaith y mae’r Gwyddyl. Mae gennyf ofn taw colli dealltwriaeth a chysylltiad  â’u democratiaeth y mae’r Aussies. Pleidleisiwch a dathlu democratiaeth. A dweud “diolch yn fawr” amdani.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Er cof annwyl ?

Ar y cyfan, nid yw Awstralwyr yn bobl sy’n gwerthfawrogi’r fath o seremonïau y mae’r sefydliad Prydeinig/Seisnig mor hoff ohonynt. Rhengoedd clos o filwyr wrth i’r Frenhines dderbyn ei “lliwiau” ar Barêd Gwarchodlu’r Ceffylau (cyfieithiad ciami bwriadol!!). Defod agor y Senedd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Cyflwyno Cwpan y FA ar ôl taith gerdded I fyny 39 o risiau i’r Bôcs Brenhinol gan chwaraewyr blinedig. Nid felly yn y wlad hon. OND – gair bach defnyddiol iawn ! Ond, mae’na un achlysur pan welir yr un fath o drefn neu ysbryd neu, mawredd mawr, emosiwn. Y 25ain o Ebrill yw’r diwrnodd hwnnw. Diwrnod ANZAC. Diwrnod yr Australian and New Zealand Army Corps. Yng ngwres ffyrnig y Rhyfel Mawr y bathwyd yr enw sy wedi datblygu fel rhan ganolog o gymeriad y ddwy wlad a oedd newydd gael ymreolaeth o’r fam-wlad. Gallipoli oedd Y lle pan drodd yr enw yn rhywbeth llawer mwy na hynny. 1915 oedd y flwyddyn. Yr Aussies a’r Kiwis fel eu gilydd yn cael crasfa filwrol mewn ymgyrch i gipio tir o ddwylo milwyr Twrci. 28,150 o filwyr Awstraliadd yn cael eu lladd neu’u clwyfo, 7,991 o Seland Newydd. Lladdwyd eraill, miloedd ohonynt, o Brydain Fawr (gan gynnwys Iwerddon), Ffrainc, India a Newfoundland ac Ymerodraeth yr Ottomaniaid – Gwelir mwy o fanylion yn y fan hyn: http://www.nzhistory.net.nz/media/interactive/gallipoli-casualties-country. Mae’r rheswm paham mae Gallipoli’n enw mor bwysig yn Awstralia a SN yn syml. Gwledydd bychain iawn oedd y ddwy o ran poblogaeth ym 1915 ac yr oeddent yn dibynnu ar ymdrechion dynion ifainc am eu datblygiad – ffermwyr, gweithwyr ffatri ac yn y blaen. Felly yr oedd colli cyfran helaeth o’u poblogaethau’n gysgod am ddegawdau i ddod. Mae’r “Ysbryd Anzac” – sylwer mae’r acronym ANZAC wedi troi’n air erbyn hyn – yn bwysig tu hwnt yma ac ar draws Môr Tasman. Pwysig ond yn wahanol. Oz yr wyf am sôn amdani. Cynhelir gwasanaethau coffhâu ben bore ar yr 25ain o Ebrill, yna gorymdeithiau trwy drefi a dinasoedd led led y wlad. Bore hir o barchu aberth. Ac yna mae pethe’n newid. Yfed a hap chawarae. Ac, wrth gwrs, ffwtbol. Cymysgedd ryfedd efallai ond mae’n adlewyrchiad o’r cymeriad Awstraliadd mwayfrifol. Ond mae’na rai sydd yn ei gweld hi’n wahanol “SBS reporter slammed for “despicable” ANZAC Day tweets” yw’r pennawd a dyma’r erthygl –  http://www.tvtonight.com.au/2015/04/sbs-reporter-slammed-for-despicable-anzac-day-tweets.html Yr oedd canmlwyddiant Gallipoli’n bownd o greu drama – drama go iawn neu ffuglenol. Mae’r lle arbennig hwnnw yn rhan allweddol o’r genedl hon ac yn ddylanwad  mawr arni a’i chymeriad Ond – yr OND olaf un – er bod pawb mwy na lai”n derbyn hynny nid oes cytunteb am natur y dylanwad. Mae hanes a mytholeg yn wahanol i’w gilydd. Yn hytrach na meddwl amdanynt mae gwell gan lawer i “cobber” gofleidio’r emosiynol  a’r pleserus arwynebol a hawdd. Mae milwyr Gallopli’n haeddu gwell.

*DIWEDDARIAD “SBS presenter Scott McIntyre sacked over ‘inappropriate’ Anzac Day tweets”

http://www.theage.com.au/national/sbs-presenter-scott-mcintyre-sacked-over-inappropriate-anzac-day-tweets-20150426-1mtbx8.html

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Haf o hyd answyddogol, ŵ Capten

Am wlad sydd â delwedd o fod yn anffurfiol mae’na rai rheolau pendant.

A rheolau am bethau sylfaenol ydynt.

Tra mae mynd a dod y tymhorau mewn gwledydd eraill yn rhywbeth sy’n dros y lle i gyd, mae’r haf, hydref, gaeaf a gwanwyn yn Awstralia’n dilyn patrwm ffurfiol.

Ffurfiol  iawn.

Rhagfyr y 1af yw dechreu’r haf.

Mawrth y 1af yw’r diwrnod lle daw’r hydref.

Mehefin y 1af yw’r amser i sôn am y hen jôc wael honno “winter draws on”.

Ac fe ganwn ni gyd “Moliannwn” ar Medi’r 1af.

Ond, wrth gwrs, nid yw’r tywydd yn dilyn yr un sgript.

Gan anwybyddu’r perygl o’ch cythruddo chi, haf digon gawel oedd e eleni.

Twym neis ond nid crasboeth.

25-30 gradd.

Am siom !!

Yn wir, yma ym Melbourne yr oedd gorau ohono wythnosau lawer yn ôl.

Ond heddiw mae gennym Haf Bach Mihangel.

A fydd y Mihangel hwnnw yn Michael Clarke tybed ?

Criced yr wyf yn sôn amdani – gêm yr haf sydd â’i Chwpan yn yr Hydref.

Mae’r gystadleuaeth ar ei hanner ac mae hwyl y gemau cynnar yn dechreu diflannu.

Yn achos tîm Awstralia nid oes llawer o hwyl ar wahân i’r deimlad hyfryd o deimlo eich cyfrif banc yn ehangu.

Mae statws y capten Michael Clarke wedi bod dan cwmwl am dipyn oherwydd anafiadau rheolaidd  ac, yn ôl y sawl sy’n brolio eu bod nhw’n gwybod, materion mewnol yr ystaefell wisgo.

Mae hon yn stori bwysig.

Nid oes yr un sefydliad cenedlaethol sy’n cyfrif yn fwy i’r Awstraliwr cyffredin ar fwrdd bws Bondi Junction na’r tîm criced cenedlaethol.

Felly, mae unrhyw awgrym o gecreu a chwympo mâs yn rhengoedd y dynion sy’n gwisgo cap y “baggy green” yn destun o bwysigrwydd sylweddol.

Erthyglau, rhaglenni ffonio mewn, trafodaaethau ar y teledu ac yn y blaen.

Mae unrhyw dystiolaeth o broblemau yn brin ond …

“It’s just the vibe of the thing, your Honour”, yn ôl y cyfreithiwr di-glem Denis Denuto yn ffilm”The Castle”.

Y “vibe” yw hyn: mae M. Clarke yn wahanol i’w gyd-chwaraewyr.

“Show pony” gyda’i tatts a’i gariadon enwog a’i geir … ac ar ben hynny, nid yw’n ôr-hoff o’r gân a genir ar ddiwedd pob gêm fuddugol i’r Aussies.

Capten llwyddiannus ond cymeriad lletchiwth.

Dyn sy’n fwy o seleb na dyn criced i’r carn.

Fe wnaeth pethe gwella tipyn yn sgîl marwolaeth Phillip Hughes pan siaradodd Michael Clark o’r galon ac yn ei ddagrau am ei fêt.

Nid yw trasiedi’n para am hir yn y cyfryngau 24 awr ac o fewn ychydig ddyddiau yr oedd ‘na fwy o sôn am rwygiadau yn rhengoedd y tîm.

Ond fe fydd yr holl sibrydion, adroddiadau heb yr un ffynhonell  a’r gweddill o’r nonsens yn angof pe bai’r Cwpan yn nwylo Clarke yng nghanol y MCG ymhen tair wythnos.

Ennill yw popeth yn y wlad hon.

Fe ddaw barn hanes yn y man.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Democratiaeth fyw ?

Weithiau mae gan y Gymraeg ffordd arbennig o gyfleu rhywbeth.

Piti garw nad oes llawer o’m cyd-Awstralwyr (dinesydd ydwyf, neu “certified Aussie”) yn cael blas ar y disgrifiad gorau o’r sefyllfa wleidyddol sydd ohoni yn y wlad hon yn wythnosau cynnar 2015.

Smonach.

A phiti garw hefyd nad ydynt yn cael mwynhau ymadrodd arall sy’n adlewyrchu’r gyfundrefn sy’n bodoli yn y brifddinas, Canberra.

Siop siafins.

Unwaith eto mae Prif Weinidog y Gymanwlad wedi gwynebu her i’w swydd.

Wedi Rudd a Gillard, tro Tony Abbott oedd e heddiw.

Ac ynteu ond yn y “Lodge“, cartref prif weinidogion Oz, ers blwyddyn a hanner.

Yn achos Rudd a Gillard, gelyniaeth y tu fewn y Blaid Lafur oedd y sail i’r rhyfela gwleidyddol wnaeth ddinistrio’r blaid wrth iddi lywodraethu.

Ond mae achos y cocni ceidwadol (cafodd Tony A. ei eni yn Llundain) yn wahanol.

Nid oedd neb yn sefyll yn ei erbyn.

Ymladd yn erbyn cysgodion yr oedd Tony Abbott heddiw wrth i aelodau seneddol y Blaid Ryddfrydol gwrdd a phelidlesio ar gynnig i gynnal pleidlais ar yr arweinyddaeth.

Yng ngeiriau ein gwleidyddiaeth – “spill motion” oedd hwn.

Nid oedd neb yn sefyll yn ei erbyn.

Felly “cymryd tymheredd” y blaid oedd pwrpas y broses a gynhalwyd toc wedi naw o’r gloch.

A’r canlyniad Matron ?

Am ‘carry on”.

39 o ASau Rhyddfrydol bleidleisiodd yn erbyn eu harweinydd ac o blaid  cynnal ballot – sef mwy na thraean ohonynt.

Sut ar wyneb y ddaear y mae Tony Abbott yn y fath dwll ?

Yr oedd ei berfformiad fel arweinydd yr wrthblaid yn erbyn llywodraeth Lafur anhrefnus yn benigamp, ond methu fu ei hanes wrth droi’n arweinydd gwlad.

Un sy’n gadarn ei farn yw Tony … hyd nes iddo newid ei feddwl am rhesymau gwleidyddol/pleidleisiol.

Un sy’n anfodlon gwrando a dysgu yw e hefyd … hyd nes iddo wynebu gwrthryfel ar y meinciau cefn.

Cyn-newyddiadurwr yw e a fethodd gweld “stori fawr” ei hunan er bod ‘na dystiolaeth ym mhob man.

Cyllideb drychinebus, polisiau mynd a dod, addewidion etholiadol yn cael eu torri a’r penderfyniad i wneud Dug Caeredin yn Farch – cyhoeddiad ddaeth ar Ddydd Awstralia !!

Er gwaethaf polau piniwn gwael ac awyrgylch wleidyddol gwenwynig nid oedd Abbott am newid pethe … hyd nes iddo sylweddoli bod ei swydd yn y fantol.

Yna fe wnaeth e addo newid ei ymddygiad, ei ffordd o weithredu gan droi’n ddyn sy’n gwrando bob amser yn ei swyddfa drws agored.

“Ennillodd” o 61 pleidlais i 39, buddugoliaeth wnaeth ysbrydoli Tony i ddweud y geiriau anfarwol hyn – “”good Government starts today”.

Ie, mae’r Saesneg yn gwenud “y gwaith” weithiau hefyd !

Ond i’r hen iaith yr aiff yr Oscar, y BAFTA …  y Tony.

Smonach.

Siop siafins.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Un ohonyn nhw

Nid am y tro cyntaf, dyma gân sy’n dweud y cyfan.

Mae Flanders a Swann (Cafodd Donald Swann ei eni yn Llanelli gyda llaw) ymhlith fy hoff berfformwyr erioed.

Er bod y gân uchod yn ddychan bur, mae’na fwy na mymrym o wirionedd yn perthyn iddi.

Fe gefais fy nghodi felly.

Fel Sais.

Am bechod.

Ond yr wyf yn cael y fraint a dyletswydd o ddweud pethe’n blaen.

Wrth dreulio blynyddoedd fy mhlentyndod  ym maestrefi Llundain gyda mam nid anhebyg i’r anfarwol Hyacinth mae gennyf hawl i ddatgan yn glir ac yn groyw – nid yw’r rhan fwyaf o Saeson eisiau deall, gwybod neu, hyd yn oed, ystyried gwahaniaethau ieithyddol ar draws eu hannwyl Ynysoedd Prydeinig.

Heb yr un wers, e-bost neu neges uniongyrchol maent yn gwybod heb feddwl bod pob iaith arall yn Saesneg wedi’i chyfiethu … a hynny’n weddol gwael.
Nhw sy wedi creu popeth.
Nhw sy biau’r gwir a mwy.
Mae Flanders a Swann yn gwybod.
Y Saeson.
Wrth iddnt deithio i’r Cyfandir y maent yn dioddef ystyfnigrwydd y “bloody foreigners” wrth iddynt siarad iaith arall, ond mae’n gwbl amhosibl iddynt feddwl am iaith arall ar dir Prydeinig fel rhywbeth go iawn.
Pethau ffug, lletchwith ac od yw’r Gymraeg, Gaeleg, Gwyddelig, Jèrriais , Guernésiais, Cernyweg a Manaweg.
Pob un wan jac.
Am lwyth sydd mor hoff o hanes nid oes ganddynt parch neu glem ynghylch yr ieithoedd hynny sydd â gwreiddau dyfnach lawer na’r Saesneg.
Made up ydynt i’r Saeson.
Mewn byd sy wedi newid yn aruthrol ers fy nyddiau coleg a phellach yn ôl. mae un peth yn union fel yr oedd e, ac fel y buodd e erioed.
Nid yw agwedd y mwyafrif healeth o Saeson tuag at unrhywbeth Prydeinig sydd ddim yn Saesneg o ran mynegiant wedi newid.
Ond, peidiwch â gwastraffu eich amser wrth geisio unwaith eto i’w perswadio nhw i newid eu meddylfryd.
Gwastraff pur a gwag.
Mewn diwrnod fe wnaeth cwmni Lidl newid ei feddwl parthed y Gymraeg.
Krauts ydynt wrth gwrs.
Ystyried tystiolaeth gadarn wnaethant wedi iddynt cymryd cam wag cyhoeddus ac ymateb yn sydyn.
Beth fyddwch chi’n disgwyl ganddynt neu unrhyw Johnny Foreigner arall ?
Mae’r Saeson yn gwybod yn well na neb.
.
 

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Hel straeon, bod yn stori

Un o’m hoff ymadroddion Saesneg yw “biter bit”.

Yn ystod y dyddiau diwethaf yr wyf wedi profi’r hyn y mae’n yn ei olygu.

Gohebu ar gyfer rhaglen wythnosol 730 Victoria ydwyf ac yn ei chynhyrchu hefyd.

Gyda’m cyflogwr, Y Gorfforaeth Ddarlledu Awstraliadd, yn wynebu torriadau i’w chyllideb mae tynged y rhaglen a’i chwaer-raglenni led led yn wlad yn y fantol.

Mae unrhyw stori am yr ABC yn fêl ar fysedd ein cyd-newyddiadurwyr gyda gwefannau’n llawn o adroddiadau a damcaniaethau.

Cyfnod anodd a ddweud y lleaif.

Mae’n hefyd yn wers bwysig i ni.

Wrth deimlo llu o emosiynau yr ydwyf a’m tîm bach yn sylweddoi’r effaith seicolegol o fod yn “stori”.

Mae newyddiaduriaeth a’u gweithwyr yn farnwyr, rheithgor a dienyddwyr yn llawer rhy aml.

Pennawd cryf a llenwi gofod yw’r blaenoriaethau.

Cynnyrch – content bondigrybwyll.

Mae safonau ac ymddygiad wedi dioddef o ganlyniad.

Nid yw bod yn stori yn beth hawdd ond nid yw ein stori yn fater o fyw a bod.

Fe allai fe fod yn llawer gwaeth.

Beth bynnag daw o’n drama fach ni, byddaf yn gwneud fy ngorau glas o’r newydd i gofio  sut peth yw bod yn stori wrth i mi hel straeon.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Cofio a phendroni

Yr oedd gwylio’r ffilm “Pride” yn destun balchder a mwy i mi nos Iau ddiwethaf.

Yr oeddwn yn mynychu ymddangosiad codi arian tuag at ymgyrchoedd hawliau hoyw Victoria mewn sinema ym maestref Carlton, hen gynefin y cyn brif-weinidog ceidwadol Syr Robert Menzies pan yr oedd pêl-droed Awstraliadd ar ei feddwl yn hytrach na’r hen wlad annwyl a’i brenhines.

Go brin y byddai “Ming” wedi gweld llawer i fwynhau yn y ffilm.

Glowyr ar streic, undebau, hoywon a … disco !

Roedd Cwm Dulais yn rhan o’m “patch” newyddiadurol pryd hynny wrth i mi weithio gyda Sain Abertawe a’r BBC.

Yr wyf yn cofio ambell i stori yn y papurau cyffredinol a’r cychgronau hoyw’n adrodd yr hanes arbennig hwn. Ond ar y cyfan fe’i gadwyd o’r golwg hyd nes i’r benawd “Pits and Perverts” ymddangos.

30 mlynedd yn ddiweddarach yr wyf yn dal i deimlo’n lletchwith amdano – yr hanes hynny yw.

Ar y pryd pan yr oeddwn yn hel straeon am y streic yn ddyddiol tra yr oeddwn yn byw bywyd “hanner a hanner” fel dyn hoyw. Hanner mewn, hanner mas.

Yr oeddwn yn newyddiadura am y streic ac yn gwneud ymgais i fod yn “deg”, sef rhoi sylw i’r ddwy ochr.

Ond yn hynny o beth, yr oeddwn yn gwneud union yr un fath ag ‘roeddwn yn gwneud gyda’m rhywioldeb.

Hanner mewn, hanner mas.

Yn fy nghalon yr oeddwn gyda’r glowyr a’u cymuedau 100%.

Nid oedd dewis arall i mi fel ŵyr, nai a chefnder i weithwyr maes glo Swydd Amwythig ac fel rhywun oedd yn gweld parhâd cymundedau glofaöl Cymreig a Chymraeg yn holl bwysig.

Wrth edrych yn ôl yn sgîl gweld y ffilm “Pride” yr wyf yn teimlo’n anesmwyth braidd er fy mod i wedi’i mwynhau’n arw.

Anesmwyrh am gadw fy mhen i lawr yn yr wythdegau a “gwenud y job” tra yr oedd eraill yn sefyll gyda’r glowyr a’u teuluoedd.

Peidiwch â’m cam-ddeall, nid gwisgio sachllian a lludw ydwyf.

Yn syml, syweddoli’r ydwyf y gallai’r gair “proffesiynol” wneud môr a mynydd o niwed personol.

Ond, a oes ‘na blogpost heb y gair hwnnw dwedwch ?, ond gwell sylweddoli eich camau gweigion hwyr na hwyrach na dal i grwydro ar hyd llwybrau cul a saff.

Roedd gweld “Pride” milltiroedd lawer o Gwm Dulais a lleoliad fy hen newyddiaduriaeth yn dechreu’r broses i mi.

Ac wedyn, gwnaeth ymddangosiad Siân James ar y rhaglan “O’r Bae” gynnig mwy o sylwedd i mi gnoi cil amdano.

Fel wnes i awgrymu yn y blogpost am farwolaeth Gough Whitlam, mae’r weithred o “gofio” yn cynnig mwy nag edrych yn ôl.

Braf yw cofio, braf yw rhoi pethe yn eu cyd-destun, braf yw defnyddio hanes (personol A chymunedol) i wella’r bresennol a’r dyfodol.

Mae “Pride” yn wir destun balchder i bobl Onllwyn ac i’r hoywon a lesbiaid a safodd drostynt.

Ac yn destun dysgu hefyd.

Rho sylw

Filed under Uncategorized