Gair amdanaf

IMG_2035

 

Newyddiadurwr, cefnogwr pel-droed o bob math a chasglwr o bethau cerddorol o bob lliw.

Wedi ymgartrefu ym Melbourne ers 2007, byw yn Awstralia ers 1988. Cyn hynny, gweithio i CBC (Darlledu Caerdydd), Sain Abertawe a BBC Cymru.

Hanes

Ganwyd yn Fleetwood, Sir Gaerhirfryn.

Diddanwyd gan “Heddiw” ar drosglwyddyddion Holme Moss a Crystal Palace.

Teulu fy mam yn hannu o’r Gororau a sawl cefnder yn siarad neu’n deall y Gymraeg.

Dysgu’r iaith yn f’arddegau ac yna mynd i Goleg y Brifysgol Abertawe  – B.Sc.(Econ) a thrysorydd undeb y myfyrwyr.

Uchafbwyntiau newyddiadurol

Holi John Evans Llewitha, Britney Spears a’r Dalai Lama.

Timau

Western Bulldogs (AFL), South Sydney (NRL), Dinas Abertawe (Pel-droed), Fleetwood Town (pel-droed)

Hoff bethau

Cerddoriaeth, dramau da, llyfrau sy’n mynd ar ol syniadau, shepherds pie, sauvignon blanc o Seland Newydd.

Hoff berfformwyr

Mabel Mercer, Andrew Bird, Endaf Emlyn, Buddy Holly, Stevie Wonder, B-52s.

Hoff setiau DVD

The Wire (HBO), Breaking Bad (AMC), West Wing (NBC), Frontline (ABC), Curb Your Enthusiasm (HBO)

Hoff bethau ar-lein

BBC Radio 4Extra am glasuron comedi a rhai newydd sbon da

NPR am ddarlledu cyhoeddus gwych o’r Unol Daleithiau

Blog Vaughan am ddadansoddiad o wleidyddiaeth Cymru a thu hwnt + “Rialtwch”

Y dyn a'r lleuad

Hoff ganeuon

Taking A Chance On Love – New York Gay Men’s Chorus

Glaw – Endaf Emlyn

He Was Too Good To Me – Mabel Mercer

Anyone Can Whistle – Lee Remick

Cartref

Wedi teithio blynyddoed, llechweddi a chymoedd…

Brunswick West ym maestrefi gogledd-orllewinol Melbourne. Ardal sy’n amrywiol o ran pobl – eingl-awstraliaidd, eidalwyr, groegwyr, pobl y dwyrain canol, rhai o ynysoedd y mor tawel ac yn y blaen.  Cymysgedd o bobl sy’n rhannu’r tir yn ddigon cyfeillgar.

Hoff bethau sydd ddim ar gael yn Awstralia

Clark’s Pies, hufen-ia Joes Abertawe, Brains Dark, ysgytlaethau mefus eisteddfodol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s