Cawr o Awstraliwr

Mae marwolaeth rhywun dylanwadol bwysig yn dweud cyfrolau am lawer o bethe. Yn achos Gough Whitlam y mae angen llyfrgell ! Yr oedd e’n wleidydd craff (a naïf) a siaradwr cyhoeddus penigamp. Yr oedd yn ben ar lywodraeth wnaeth newid Awstralia am byth. Yr oedd yn arwr, yn ferthyr, yn ffigwr wnaeth ddenu casineb ac yn dipyn o enigma. Pan etholwyd Whitlam a’i Blaid Lafur i fod yn llywodraeth ar y wlad hon ym 1972 yr oedd Awstralia, yng ngeiriau y cyn-brif weinidog arall Paul Keating, yn ben-ôl y byd. Yr oedd yr hen ddyn Robert Menzies wedi mynd, o’r diwedd, fel PM ond yr oedd y lle yn dal gyda’i draed (a’i ffordd o fyw) yn y pumdegau cyfforddus, hawdd a neis. Yn wir, nid oedd rhyw lawer wedi newid ers creu Awstralia annibynnol ym 1901 er gwaethaf dau rhyfel byd a llu o fewnfudwyr. Yr oedd Oz yn rhywfath o Brydain/Lloegr gyda thywydd gwell a thim criced ych-a-fi ! Ond nid oedd rhai Awstralwyr wedi profi’r fath wlad. Yr Aboriginiaid, menywod, Eidalwyr a Groegwyr oedd newydd gyrraedd a’r difreintiedig er enghraifft. Yr oedd angen newid. Daeth arwydd o newid cyn i Whitlam ennill etholiad ’72. Yr oedd ‘na elfennau y tu fewn i’r Blaid Ryddfryfol (John Gorton a Harold Holt) yn ysu llusgo’r wlad i ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ond ar ôl dwy ddegawd a mwy mewn grym nid oedd yr awydd na’r gallu gan ochr geidwadol gwleidyddiaeth i hebrwng y genedl ar hyd taith mor gyffrous a pheryglus. Edward Gough Whitlam oedd y dyn i ddangos y ffordd. Yr oedd ei weledigaeth – i greu Awstralia annibynnol go iawn, Awstralia deg, Awstralia well. Ac o ganlyniad yr oedd ‘na lawer iawn y tu fewn i’r sefydliad yn ei wrthwynebu’n ffyrnig. Yn fras, daeth cyfnod o sosialaeth ar garlam i ben o fewn tair mlynedd ar Ddydd y Cofio. Yr 11eg o Dachwedd 1975. Coup d’etat neu newid cyfansoddiadol angenrheidiol ? Mae’r dadlau am hynny’n parhau hyd heddiw. Wrth i’r cyfryngau lenwi ein sgriniau gyda theyrngadau a lluniau archif du a gwyn yr wyf yn pryderu. Fel yn sawl achos o “gofio”, yr ydym – gohebwyr a’u teip – yn tueddu dweud stori sy’n cael ei hanelu tuag y sawl yr oedd “yno” ar y pryd. Ond mae’na eraill Fe fyddai ceisio dweud wrth y sawl dan 40 oed paham yr ydym yn son cymaint am Whitlam yn beth iach hefyd. Nid hanes yw cofio. Mae cyd-destun a dylanwad yr unigolyn yr un mor bwysig yn fy marn i. Yr oedd Waldo’n ei dweud hi llawer gwell na fi. Un funud fach cyn elo’r haul o’r wybren, Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt, I gofio am y pethau anghofiedig Ar goll yn awr yn llwch yr amser gynt. Mae’r pethe anghofiedig cyn bwysiced a’r rhai cyfarwydd.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s