Ar y ffordd

IMG_0255

Fel yr wyf wedi dweud sawl tro, mae hon yn wlad fawr.

Mawr iawn.

Mae talaith Victoria’n weddol fach wrth gymharu â Queensland a Gorllewin Awstralia, ond mae hi’n dal yn b—i fawr !

Yr wyf newydd ddychwelyd o daith i ben gogleddol y dalaith, dinas o enw Mildura.

Mae’n lle hardd gyda gerddi orennau a grawnwin yn sefyll rhwng cartrefi clyd ac mae canol y ddinas yn enghraifft o”art deco” ar ei gorau.

IMG_0228

Saif Mildura ym mhellafion etholaeth 35,702 kilomedr sgwâr ac mae hi’n agosach i Adelaide nag i Melbourne.

Mae’n dipyn o daith i wneud stori am ras etholiadol gwledig – cynhelir etholiad taleithiol Victoria ar y 29ain Tachwedd – ac roedden ni ar y ffordd am chwe awr a mwy.

Felly wrth yrru trwy’r Mallee, fel y gelwir yr ardal arbennig hon, yr oedd ‘na ddigon o amser i mi a’m dyn camera Kyle drafod y byd a mwy.

Pêl-droed Awstralaidd (AFL) a bwyd oedd y ddau brif destun a ddweud y gwir yn onest !

Mae taith i’r wlad yn rhan hanfodol o’m gwaith fel gohebydd a chynhyrchydd rhaglen 730 Victoria ac rhaid dweud fod gan Victoria llu o drefi a phentrfi pert i ymweld â nhw a hel straeon difyr a dwys.

Ac ar bob taith i’r “bush” mae’na gwestiwn holl bwysig i’w hateb.

Ble mae’r caffi/popty gorau ??!!!

Os am pies a sosej rôls ewch i Nagambie.

Os am rywbeth gyda quinoa neu lentils ewch i Sale.

Ac os am frechdan stec ‘does ond un lle – Hopetoun.

 Bara gwyn, stec, cig moch, letys. tomato a wynwyn wedi’u ffrio.

A margarine ar y bara a hwnnw wedi’i dostio !!

A’r pris – $7.

Mae hynhny llai na chost hanner peint o gwrw boutique yn y faestref lle’r wyf yn byw … sy’n lle hipsteraidd brawychus.

Yr oedd Kyle a minnau yn y Caffi am awr yn holi ymgeisydd Llafur ifainc a oedd yn hynod hen ffasiwn wrth iddo son am chwarae teg, gwasanaethau cyhoeddus a phethe rhyfedd eraill.

Ar ôl y cyfweliad death y frechdan yng nghanol cwmni trigolion tref fach sy’n dal eu gafael – mwy na lai – ar eu cymuned a’u timau chwaraeon, siopau a ffordd o fyw.

Nid oes iaith wahanol ar dafodau pobl Hopetoun ond ar wahân i hynny mae’r lle’n nynd trwy’r un fath o brofiadau â degau o bentrefi cefn gwlad Cymru.

Mae gobaith yn beth prin iawn yn Hopetoun, ond nid oes diffyg balchder trefol.

Ac yr oedd yr un peth yn wir ar hyd y ffordd rhwng Melbourne a Mildura ac yn ôl wythnos ddiwethaf.

Mae’r byd mawr yn lle peryglus ar y naw y dyddiau hyn.

Rhaid cael gafael ar bethe a llefydd sy’n codi eich calon.

Wnaiff brechdan flasus a thref fach llawn croeso y tro mi am dipyn.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s