Chwarae bach. chwarae mawr

Rydyn ni reit yn ei chanol hi.

Cynnwrf, cyffro, ofn a siom.

Peidiwch â’m cam-ddeall am eiliad.

Nid sôn am y perygl o defysgaeth yma yn Awstralia yr wyf yn siarad amdano.

Ond cyfnod y gemau mawr – y ddwy gêm fwyaf.

Nid yw “Rownd Derfynol” yn ddigonol i ni yn Awstralia, rhaid i’r gêm fod yn fwy na hynny.

“Grand Final” yw’r term sy ar dafodau nifer sylweddol o bobl y wlad frown hon.

Sadwrn diwethaf death yr Elyrch a’r Hebogau’n erbyn eu gilydd yn y bêl-droed leol – yr AFL lle defnyddir y Sherrin uchod.

Mewn geiriau eraill (a dealladwy i chi chi f’annwyl ddarllenwyr) Sydney yn erbyn Hawthorn.

Crasfa oedd hi, Hawthorn, sy’n faestref ddwyreiniol Melbourne, yn rhoi cweir i fois ariannog dinas fwyaf Oz.

Y sgôr derfynol: Hawthorn 21.11 Sydney 11.8.

Nawr ‘re, mae’r ffordd o sgorio yn AFL yn od i’r sawl sy ddim yn meddwl ei bod hi “Y” gêm orau ar wyneb y ddaear.

Felly …

Popeth yn glir ??

Roedd buddugoliaeth 63 pwynt Hawthorn yn un llawn hyder a threfn ond i’r gwyliwr niwtral yr oedd y gêm yn hyll a siomedig.

Roedd fel mynd i barti benblwydd ac yr oedd pob un balŵn wedi mynd “bang” o fewn munudau a’r gacen heb nemor ddim icing – pinc, gwyn, coch neu wyrdd !

Ond mae gennyf gacen  pêl-droed arall yn y ffwrn, un fydd yn nofio mewn coch a gwyrdd … neu, i ddefnyddio’r enawau go iawn amdanynt, Cardinal a Myrtle.

Mae hanes y “Rabbitohs” yn un hir a dramatig.

Un o’r timau rygbi tri-ar-ddeg mwyaf llwyddiannus yn hanes y gamp.

Ond ers pedwar degawd a mwy nid yw’r tîm wedi chwarae yn yr un “Grand Final”.

Yn waeth byth, am gyfnod yr oedd y “Bunnies” allan o’r gystadleuaeth ar  ôl i feistri newydd y NRL (National Rugby League) benderfynu nad oedd lle i fod i glwb traddodiadol gyda llysenw rhyfedd*.

Ymhlith y meistri ar y gamp oedd cwmni cyfryngol Rupert Murdoch a’r un yw’r stori hyd heddiw.

Ond death tro ar fyd trwy’r llysoedd a thrwy’r bobl yn dangos eu nerth.

Dydd Sul nesaf fe fydd South Sydney yn wynebu Canterbury-Bankstown yn “Grand Final” y NRL.

Fe fydd ‘na donau o emosiwn wrth i gefnogwyr y “Rabbitohs” baratoi am y gêm fawr.

Mae’r clwb wedi’i lleoli mewn un o’r ardaloedd mwyaf lliwgar yn Sydney.

Tai a fflatiau cyhoeddus gweddillion y dosbarth gweithiol, tai a fflatiau moethus yr hipsters a’r hoywon.

Ac ie, fy nhîm i yw Souths !

Felly, nid oes ots gennyf pa mor hyll a siomedig fydd y gêm – ennill, ac ennill yn unig, yw’r nôd.

Mae chwaraeon a gwleidyddiaeth Awstralia’r un fath.

Mwy am y ddau cyn bo hir.

*Rabbitohs ??? Y llys enw’n tarddu o waedd y gwerthwyr cwningod ar strydoedd Sydney o gwmpas cartref y cleb yn Redfern – “Rabbit-oh, rabbit-oh”.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s