Rhy agos o lawer

35 kilomedr i fwrdd.

Awr o daith mewn car, ychydig yn hwy mewn tram a thrên.

Dyna’r ffeithiau moel am digwyddiad arbennig yn Endeavour Hills a allai arwain at …  wel, pwy a wyr.

Neithiwr fe saethwyd dyn 18 oed yn farw gan heddwas wedi iddo ei drawanu a heddwas arall.

Yn anffodus, mae digwyddiadau o’r fath yn digwydd yn weddol aml ond mae hwn yn arbennig.

Yr oedd y dyn ifainc yn gysylltiedig âg Al Furqan – grŵp Islamaidd eithafol yn ôl yr awdurdodau.

Yr oedd yr heddweision am ei holi yn sgîl yr ofn cynyddol diweddar am fygythiad  terfysgaeth yn Awstralia.

Dyn ifainc Moslemaidd yn mynd i orsaf yr heddlu gyda chyllell yn ei boced.

Dau heddwas yn ymateb i ymosodiad.

Un corf, dau yn yr ysbyty.

Yn sydyn reit mae’r gymdeithas aml-hiliol, aml-grefyddol, aml-ddiwylliannol Awstraliadd sy wedi tyfu ers degawdau’n ymnddangos yn fregus iawn.

Ni a nhw.

Mae’r ofn o berygl anweledig yn ddigon dwfn ond mae cael rhywbeth a ddigwyddodd ar stryd cyffredin ychydig o filltiroedd o’ch cartref clud yn troi’r ofn yn banic.

A dyna’r perygl heno wrth i mi deipio.

Gydag adroddiadau sy’n gôrsymyleiddio, gwleidyddion sy’n awyddus i elwa’n bersonol ac yn bleidiol a chyhoedd sydd wedi, yn gyffredinol, wedi datgysylltu ei hun o’r realiti bydol yr ydym yn gwynebu dyddiau danjerus.

Nid yw’r gair anesmwyth yn hanner digon da i gyfleu’r hyn yr wyf yn ei deimlo ar hyn o bryd.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s