Niferoedd, geiriau, diffygion

Yn oriau man dydd Gwener nesaf fe fydd niferoedd solet yn rhoi taw ar bawb a phopeth.

Go brin ! Ond – ac proffwydo’r ywyf yn awr –  pa bynnag rif sydd y tu  ôl i’r “4” pan ddaw canlyniadau terfynol y refferendwm, fe fydd achos i ddathu ymlith y bobl … “Ie”.

Fe ddylai’r sawl “bu choir” ddathlu eu gallu i wrthsefyll diwrnod ar ôl diwrnod, wythnos ar ôl wythnos o newyddiadura pleidiol a thrahaus.

Ni allaf ddweud wrthoch ryw lawer am yr ymgyrch ar lawr gwlad yn yr Alban, ond mae darllen a gwrando o bell wedi fy syfrdanu fi.

Mae’na ddiffyg cyd-bwysedd ac, yn waeth byth, diffyg cyd-destun a gwybodaeth sylfaenol i’r fath raddau fy mod wedi rhoi’r gorau i sawl bapur a rhaglen ers i mi ddychwelyd o’m tair wythnos o wyliau yng Nghymru. Lloegr a’r Alban mis yn ôl .

Os am adroddiaudau sy’n edyrch ar y bleidlais hanesyddol hon fel mater o bwys, rhaid i chi fynd i “ranbarthau” y gyfundrefn Brydeining, Iwerddon, a gwledydd aeddfed eraill megis yr yr Unol Daeleithiau, Seland Newydd a Chanada.

Nid oes syndod bod y “Telegraph” a’i deip yn bleidiol i’r achos “nas fheàrr còmhla”.

Ond mae’r newyddiadura ar draws y papurau wedi bod yn bleidiol eithafol yn  llawer rhy gyson gyda gormod o gynnig barn o safbwynt arbenning yng ngholofnau’r Torygraph a’r Times a’r Guardian a’r Western Mail.

Fe fyddai fe’n codi embaras ar Moira Anderson, Kenneth McKellar, Jimmy Shand (a’i fand) a phob cynghorydd gwrth-Aeleg Caithness.  (Heb son am pob wan jac y tu ôl i’r rhaglen radio fythgofiadwy honno “Ceilidh air Carrochar”.) Y broblem i mi – rhywun sydd wedi bod yn hel straeon fel bywoliaeth ers y 70au – mae’r garfan Luneinig/Pydeinig wedi dangos tro ar ôl tro nad ydynt yn gwybod neu ddeall hanes yr Undeb/gwlad/cenedl y y maent mor hoff ohoni Maent wedi dangos llawer mwy na’u lliwiau.

Maent wedi datgan yn glir trwy eu gohebu eu bod nhw’n rhan o beiriant sefydliadol.

Dyna’r hyn a elwir yn bapurau newydd yn gwneud y dyddiau hyn. Ond, ac “ond” a hanner yw e, beth am y BBC – y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeining ? Mae

Mae mwy o sylw wedi’i roi i ganmlwyddiant y Rhyfel Mawr nac i siâp bosbl y “genedl” ei bod hi wedi gwasanaethu ers 1922.

1922.

Blwyddyn dechreu ffarwel hir Iwerddon i Brydain a’i hymereodraeth.

Eironi !

Mae’na bergyl go iawn i’r “genedl Brydeining” – existential go ianwn. Swyddogaeth y BBC , yng ngeiriau ei siarter frenhinol, yw”output which consists of information, education and entertainment”.

Ac ar ben hynny, eironi arall o bosibl, dywed y siarter y dylai’r BBC gynrychioli “the UK, its nations, regions and communities.”

Proffwydoliaeth arall – ac un yr wyf yn llawer mwy hyderus amdani na’r un am y canlyniad.

Fe fydd adroddiadau a datganiadau i’r wasg yn llifo o’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeining gyda siartiau a llawer mwy o rifau na “4” ac un rhif arall ! Fy fyddan nhw’n dangos, i’r eiliad, yr oedd yr amser a roddwyd i’r ddwy achos mwy na lai yn gyfartal.

Tystiolaeth solet, yn ôl llefarddyddion di-ri, yr oedd y BBC wedi cyflawni ei swyddogaeth.

Ni fydd ynrhyw sôn am tinc mewn llais neu leoliad aeliau cyflwynydd neu holwr, na’r dewis o gwestiynau ar gyfer “Any Questions” a “Question Time”.

Ac yn bwysicach, y diffyg sylw o gychwyn cyntaf yr ymgyrch blwyddyn a mwy yn ôl.

A sôn am ddiffygion – nid yw’r “Pawb a’i farn” diweddar o’r Alban ar gael i mi a’r diaspora Gymraeg fel arfer.

Un o’r ychydig raglenni S4c sydd wedi bod ar gael i ni yw fforwm fywiog Dewi Llwydm ond nid y rhaglen arbenning hon.

Neu mewn geiriau a rhifau eraill:

Stream not found: uk/BSM/standard/600/pawb_ai_farn_refferendwm_yr_alban_cymr_r6b7dr_001f254248.mp4?8c117b46a0fa55c6524327e1b688a80029fe7ade443b45c532a705f6163f679ea190fda2698c34750eb2

Oes ‘na “geo-block” Albanaidd wedi’i sefydlu gan y boi Salmond ‘na eisoes !!

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s