Gwlad arall

 Rwyf wedi dod yn ôl wedi misoedd o lawer o dawelwch blogio.

Yr hen fwgan “pwysau gwaith” sy’n cael cael y bai – yr wyf wedi bod yn brysur yn dod â straeon o bob cornel o dalaith Victoria i wylwyr teledu.

Bandiau pres:  http://www.abc.net.au/news/2014-04-11/better-with-a-band-in-box-hill/5385418

Rygbi (gyda chymorth hogyn o Harlech): http://www.abc.net.au/news/2014-08-23/breaking-down-barriers-through-sport/5691586

Gwleidyddiaeth blentynaidd Victoria: http://www.abc.net.au/news/2014-09-05/spring-street-theatrics-swamp-real-issues/5724068

Ond wedi treulio amser yn nhair o wledydd y DU yn ddiweddar, yr wyf yn teimlo ei bod hi’n hen bryd i mi ail-gydio yn y busnes blogio – gan obeithio cyfrannu bob wythnos o hyn allan trwy gyhoeddi dros bob penwythnos.

Fe fyddaf yn gwyntyllu am Gymru a LLoegr yn y man, ond yr wyf am fynd i wlad y Belliaid wrth chwarae’r rhan yn y ddrama ddatganoli fel Anndra Mac Giolla Mhaoil !

IMG_1613IMG_1634

Prin deuddeg awr dreuliais yn yr Alban wrth fentro i ŵyl Gaeredin – ar yr ymylon fel y byddwch yn disgwyl !

Y cyfan gallaf ddweud yw hyn: yr oedd prifddinas yr Alban yn “teimlo” fel yr oedd Dulyn yn “teimlo” i mi yn yr wythdegau pan es i draw yno am y tro cyntaf.

Cyfarwydd ond gwahanol. 

Yr oedd y lle’m sefyll mewn gwlad wahanol i’r wlad o le gychwynais siŵrne dwy awr ynghynt.

(Y man cychwyn oedd Northumberland yn benodol, LLoegr yn swyddogol.)

Sut a pham yr oeddwn yn teimlo felly ?

Dyna i chi gwestiwn.

A’r ateb ?

Wel, yng ngeiriau’r cyfreithiwr di-glem Denis Denuto yn y ffilm Awstraliaiddd “The Castle”: ” It’s the vibe of the thing, your Honour.”

 

 

 

 

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s