Cul de sac

Yn araf ond yn bendant, y mae dyddiau’r diwidiant ceir Awstralia yn dod I ben.

Erbyn 2017 na fydd yr un gerbyd yn cael ei gwneud mewn gwlad lle mae perchen â “set o olwynion” yn fater o barch personol.

Holden yw’r car cant y cant Awstralaiaidd ym meddyliau’r genedl er ei fod yn rhan o General Mottors ers cyn cof.

Ford sy wedi bod yn fara menyn i filoedd yn ninas Geelong (ail ddinas Victoria) ers degawdau.

A Toyota yw’r brand ddaeth â cheir chêp o wlad a fu Awstralia yn elyn gref ohoni yng nghanol y ganrif ddiwethaf.

Ond mae’r olwyn ar fin stopio troi.

Y ddoler gref, cystadleuaeth o Asia a llu o resymau eraill sy’n gyfrifol am benderfniadau unigol y tri chwmni i rhoi’r ffidl yn y to.

Rydyn ni wedi bod “yma” o’r blaen ond llwyddodd y diwidiant ceir i rygnu ymlaen.

Cefnofgaeth ariannol gan lywodraethau – taleithiol a chendlaethol – wnaeth y tric o berswadio y cwmnîau rhag adael y wlad frown enfawr hon.

On nid y tro hwn.

Ceidwadwyr sydd wrth y llyw yng Nghanberra a rhai sy’n dweud eu bod nhw’n benderfynnol o ail-greu’r economi ar seiliau cadarn, masnachol.

Felly o fewn y dair mlynedd nesaf fe fydd miloedd yn colli gwaith – yn y cwmnîau ceir a’r busnesau bychain sy’n cynhyrchu rhannau ac ati.

Y dalaith hon – Victoria – a De Awstralia fydd ar eu colled ac mae’r ddwy’n galon diwidiannau cynhyrchu Awstralia.

Fel yng Nghymru yn y 80au mae’na newid mawr i ddod.

Mae’r “lucky country” yn gwynebu dyfodol ansicr a ddweud y lleiaf.

http://www.abc.net.au/news/2014-02-14/whats-next-for-victorias-economy/5261650

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s