Hen ganlyniad, agwedd newydd

Ar drothwy’r diwrnod cenedlaethol cyhoeddir enw “Awstraliwr y Flwyddyn”.

Mewn gwlad lle mae sbort yn uwch ym meddyliau pobl na phethau sanctaidd nid oes syndod bod sawl un o’r Prif Ddinasyddion wedi bod yn chwaraewr rhyw gamp neu’i gilydd.

Eleni enwyd Adam Goodes, pêl-droediwr Awstraliadd – AFL/Aussie Rules – gyda’r Sydney Swans yw Goodes ac un o’r radd flaenaf.

Ond mae’na fwy i Adam Goodes na thalent chwarae gyda phêl higron.

Aborigine yw Adam ac un sydd wedi dweud ei ddweud am yr hyn sy wedi digwydd i’w bobl ers Ionawr 26ain 1978 pan gyrhaeddodd y Llynges Cyntaf (First Fleet) wnaeth gymaint o niwed i’r bobl gyntaf, sef yr Aboriginiaid.

Ond gan ei fod yn seren chwaraeon mae geiriau Goodes yn cael eu clywed gan y bobl gyffredin sydd, fel arfer, yn dangos difaterwch (a llawer llai na difaterwch weithiau) tuag at sefyllfa’r bobl ddu sydd wedi bod ar dir Awstralia ers miloedd o flynyddoedd.

Dyma ei eiriau wrth dderbyn y wobr fawr yng Nganberra heno,

“I hope we can be proud of our heritage, regardless of the colour of our skin, and be proud to be Australian.”

Arweinydd yw Adam Goodes.

Arweinydd mewn tim pêl-droed.

Arweinydd i’w “mob’.

Ac, tybiwn i, arweinydd cenedlaethol wrth i’r genedl dyfu ac aeddfedu.

Mae angen y fath bobl ar genhedloedd go iawn lle mae chwarae gêm yn fwynhad yn hytrach na chyhoeddiad o genedligrwydd.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s