Yn wresog o’r wasg NEU Nid oes dianc rhag “puns”

Image

Wel, hylo a pha hwyl.

Mae Obell yn ôl, o’r diwedd.

Mae’r hen flog ‘ma wedi mynd yn siop siafins wag ers tipyn OND yr wyf am newid pethe ym 2014.

Rhaid i mi ddechreu gyda’r tywydd crasboeth sydd wedi ein taro ni o’r gorllewin i’r ddwyrain ers wythnos erbyn hyn (Ionawr 18fed).

Maddeuwch i mi a chithau yng nghanol gaeaf, ond nid yw byw am bedwar diwrnod yn olynnol gyda’r tymheredd yn ywch na 40 yn barti haf o bell ffordd.

Mae gan rai eu hoffer oeri’r awyr ond nid yfi, fel y rhan fwyaf o bobl Awstralia.

Felly mae’r llenni i lawr yn fy fflat , y ffenestri ar gau a’r rhewgell yn llawn dop o iâ.

Ond ar noson pan collais fy ngyflenwad trydan am bedair awr ac hithau’n 35 gradd am 10 o’r gloch nid oedd unrhyw gyfle o osgoi chwysu.

A chwysu !

Image

Ond yr wyf yn dal ar dir y byw.

I rai yn Victoriam De Awstralia a Gorllwein Awstralia mae peth’n dal yn bur wael.

Gwres a gwynt yw’r geiriau mae pawb yn ofni yn ystod wythnosau cynnar unrhyw flwyddyn yma yn Oz.

Mae’r awrdurdodau yn dal i gyfri’r wir gost o dannau mewn tair talaith.

http://www.abc.net.au/news/2014-01-18/bushfires-victoria-south-australia-grampians/5206384

Yma yn Victoriam mae’r ffermwyr wedi dioddef yn arw ac mae o leaia 7,000 o wartheg a defaid wedi marw.

Gwlad eithafon yw Awstralia a dyma paham mae eu chwaraewyr criced fel y maent !

Blog arall am y gamp lawn yng ngyfres yr “Ashes” cyn bo hir iawn.

Tywydd a sbort – dyna I chi Oz i’r dim !!

Image

 

 

 

 

 

 

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s