Roedd rhaid iddi* ddianc rhag hon

Y ddau

A nid oes ffordd i mi osgoi sgwennu rhywbeth am ddigwyddiadau gwleidyddol yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r blog wedi bod yn rhy dawel o lawer yn ystod y misoedd diwethaf – swydd newydd sydd ar fai a minnau’n ôl ar sgriniau teledu wedi ddwy ddegawd !

Ta waeth.

Ta ta i’r ferch ben-goch o’r Barri.

Roedd rhaid iddi fynd yn y diwedd.

Nid oedd neb – y ffyddloniaid Llafurol hyd yn oed – yn gwrando arni bellach.

Yma yn nhalaith Victoria y mae’r Blaid Lafur ar ei chryfaf a Julia Gillard yn aelod seneddol yn Lalor ym mhaestrefi gorllewinol dosbarth gweithiol Melbourne.

Cwpl o fisoedd yn ôl cynhalwyd is-etholiad digon di-nod i Senedd Victoria mewn etholaeth gadarn o ran Llafur.  Wel, ennillodd yr ALP yn sedd er gwaethaf cwymp aruthrol yn ei phleidlais graidd.

A dyna ddechreu’r diwedd i Julia.

Aeth y dynion rhifau, y “numbers men” bondigrybwyll sydd mor bwysig yn ein byd politicaidd … sori, etholiadol.

Roedd rhywbeth yn digwydd y tu ôl i furiau’r tai “brick veneer” sy’n bla ar draws maestrefi allanol pob dinas Awstraliaidd.

Roedd y Llafurwyr traddodiadol wedi colli eu fydd yneu plaid a JG, er bod Julia Gillard yn un ohonynt.

Roedd eu rhieni Cymreig wedi dod â’u cariad at addysg gyda nhw o Cwm Gwrach (via’s Barri) i Adelaide ac fe wnaeth Julia Eileen, eu merch, elw o’r cariad hwnnw.

Fe wnaeth hi frwydro ei ffordd o deulu dosbarth gweithiol i gael addysg a chael gafael ar yrfa proffesiynol ym myd y gyfraith ac yna gwleidyddiaeth.

Fe ddylai hi wedi dysgu digon o’i bywyd i gadw’r gefft o gyfathrebu gyad’i phobl ei hun.

Ond.

Ond, ond, ond.

Rhywle ar hyd y daith fe collodd Julia y gallu i gyfathrebu ac addysgu.

Erbyn y diwedd nid oedd fawr neb yn gweld dyfodol iddi a’i phlaid gan fod y neges ganddynt mor simsan.

Gormod o fethiannau wrth egluro polisiau a’u cyflwyno’n eglur.

Gormod o bobl yn symud tua’r Gwyrddion am ysbrydoliaeth.

Gormod o gamnau gwag wrth geisio amddiffyn ei thir gwleidyddol naturiol.

A Llafur ar 29% o’r bleidlais ac etholiad o fewn misoedd yr oedd rhaid gwenud rhywbeth.

A’r unig ddewis oedd Kevin Rudd.

Fe fyddaf yn ôl gyda rhagor am y ferch ben-goch o’r Barri a’i gelyn pennaf cyn bo hir.

*Y Blaid Lafur

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s