Dros yr enfys

Saith lliw llawn ysytyr.

Adeg y Mardi Gras Hoyw a Lesbiaidd yn Sydney fe baentwyd  lliwiau’r enfys ar draws Taylor Square, Darlinghurst, calon bywyd hoyw y ddinas emerallt.

Dyma’r union fan lle mae gorymdaith llon y Mardi Gras yn troi i’r dde ac yn anelu tuag at leoliad y parti mawr sy’n dilyn y gwaith cerdded a dawnsio ar y stryd.  (Drws nesaf I Gae Criced Sydney gyda llaw)

Mae’r enfys yn arwydd o falchder hoyw ar draws y byd ac yr oedd yn ymddangos bod y gwaith peintio’n syniad penigamp.

Dynodi croesfan cerdded a balchder oedd y bwriad.

Ond daeth tro ar fyd a thros nos diflannodd rywbeth oedd wedi datblygu’n atyniad yn ogystal ag arwydd o arbennigrwydd ac arwahanrwydd yr ardal.

Yr oedd yr awdurdodau’n dweud bod yr enfys yn peryglu bywydau gan fod cymiant o bobl yn tynnu lluniau ohoni a’r sawl oedd yn ei chroesi – mae Taylor Square yn ffordd eithaf prysur a ddweud y lleiaf.

Nefar in Oz meddai’r “gymuned” hoyw sy’n amau gweithredoedd bois yr hewl a’u bosus gwleidyddol.

A chyda llaw, enw y gweinidog trafnidaeth sydd dan y lach am ddileu’r enfys ?

Duncan Gay.

Yn wir i chi.

Ond er gwaethaf  teimladau chwerw llawer un, mae’na ddiweddglo reit diddorol i’r stori hon.

Yn lle ymaelodi â grwp Facebook a clicio ar y botwm “hoffi”, mae pobl wedi GWNEUD rhywbeth.

Rhywbeth bach ond rhwybeth sy’n dweud pethau mawr.

Mae enfysau sialc i’w gweld ym mhob man ar draws Sydney.

Protest, gweithred wleidyddol a hwyl – gwych o beth.

Mae hon yn agos at fy nghalon.

Mae hi ar draws y lon y tu ôl i’r fflatiau lle yr oeddwn yn byw yn y ddegwad ddiwethaf.

Un o ddegau.

Mae colli rhywbeth yn gallu bod yn beth positif iawn yn y pen draw.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s