O’i herwydd

Ar  ôl rhai misoedd yr wyf yn dychwelyd i’r byd blogio.

Mae’na esgusodion di-ri wrth gwrs, nid oes angen eu hardrodd wrthych.

Yr wyf wedi ystyried ysgrifennuar y safle hwn cwpl o weithiau yn ysstod yr wythnosau diwethaf ond daeth rhywbeth neu’i gilydd i’m rhwystro rhag gweud.

Ond ni allaf ddianc rhag hon a’r hanes sy’n perthyn iddi.

Margaret Hilda Thatcher.

Hi yw un o’r rhesymau fy mod i’n eistedd mewn maestref mewol ym Melbourne ac yn ysgrifennu hwn.

Etholiad 1979 oedd y tro cyntaf i mi gymryd rhan yn y broses o ethol llywodraeth.

Ac yn y blynyddoedd wedyn fe welais y gymdeithas yr oeddwn wedi bod yn rhan ohoni ers plentyndod yn cael ei rhwygo i’r fath raddau i mi amau fy lle ynddi.

Seiliau’r gymdeithas oedd addysg cyhoeddus a’r gwasanaeth iechyd.

Mesul penderfyniad cafodd y ddau sefydliad eu gwanhau a’u sarhau.

Rhwng hynny a’r ffordd o lywodraethu yr oeddwn yn methu ag adnabod fy “nghwlad” fel ryhwbeth a oedd yn perthyn iddi.

A dyna ddod i Awstralia ar wyliau yng nghanol yr 80au a gweld ffordd well o fyw a bod.

Yr oedd y gwahanniaeth rhwng De Cymru a De Cymru Newydd yn syfrdanol.

A chyda pethau personol yn newid daeth y cyfle i gefnu ar gymdeithas oedd yn fwy-fwy anerbyniol i mi.

Wel, nid aur yw popeth melyn (a gwyrdd) ond yr wyf yma o hyd yn Oz, 25 mlynedd dydd Sul nesaf.

Ond wrth glywed am farwolaeth Margaret Thatcher daeth teimadau dwfn i’r wyneb er gwaethaf tranc amser a newid acen.

Ni allaf ei maddau am yr hyn wnaeth hi i’r llefydd annwylaf i mi ar Ynysoedd Prydain dros gyfnod o amser a chyda dyfal barhad mor angharedig a chas.  Pethau a gweithredoedd a ddywedodd cyfrolau am ei henaid.

Nid wyf yn unigryw gan fod ‘na “ffoaduriaid” eraill yn byw yma, y sawl fu’n ddigon ffodus i ail-ddechreu bywydau a gyrfaoedd.

Ffodus yn wir.

Teimlo yn anesmwydd ydwyf am gyfnod Thatcher, ond yr wyf yn deall y ddicter.

Dyna etifeddiaeth y fenyw o Grantham i lawer gormod y bobl.

Ni ddylai neb dathlu marwolaeth OND fe ddylai meibion a merched Maggie osgoi dathlu ei “llwyddiannau” chwaith.

Ma’n bryd i’r gymdeithas nad oedd Thacther yn credu ynddi uno i ddangos parch ac i dderbyn cyfrifoldeb.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s