Difaterwch

Yr oeddwn i am osgoi dweud yr un gair arall ym y blymin Cyfrifiad ‘na.

Ond …

Wrth i mi chwilio a Googlio yn ystod y dyddiau diwethaf am straeon ac ysgrifau ynglŷn â’r ffigurau am y Gymraeg, fe ddes i gasgliad nid annisgwyl ond siomedig.

Prin iawn oedd y sylw i’r iaith gan y cyfryngau cenedlaethol Prydeinig.

Feri prin actiwli.

Fawr ddim sylw am rywbeth sy’n perthyn i lawer o bobl.

562,000 o bobl.

Mae’n ffigwr fyddai sawl cynhyrchydd teledu Sky yn ysu cael ar gyfer ei raglen ddiweddara.

Mae’n ddigon i lenwi Stadiwn Wembley tua chwech o weithiau.

Mewn termau mathmateg-ddaearyddol: Nottingham + Derby = Cymry Cymraeg.

O leiaf 1% o bobl sy’n byw a bod yn y “Deyrnas Gyfunol” yn siarad iaith arall.

Mwy na hanner miliwn o bobl o hyd yn gwybod mwy na’r “complex” diwylliannol (a milwrol) Eingl-Aemricanaidd sydd o’u cwmpas.

Dyna i chi stori sy’n werth ei hadrodd ochr yn ochr â’r lleill am  Johnny Foreigner, Moslemiaid a Jedi.

Stori ddiddorol sydd â thipyn o ddrama yn perthyn iddi.

Os mai’r “Deyrnas Gyfunol” yn wlad, oni ddylai’r papurau a sianeli cenedlaethol rhoi tipyn bach o le i un o’u hieithoedd ?

Neu a ydwyf i  a sawl un arall  jyst yn disgwyl (a gobeithio) cael ein siomi ?

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s