Rhifau

Mae rhifau’n ddi-duedd meddan nhw.

1 yw 1, 290 yw 290,  582,000 yw  582,000.

Nid oes dadl … oes e ?

Wel, o fewn oriau fe fydd’na gryn dadlau am beth yw gwir ystryr casgliad o niferoedd.

Cyhoeddir canlyniadau’r Cyfrifiad.

Faint fydd yn dweud eu bod nhw’n siarad/deall Cymraeg ?

Fe fydd y ffigwr tipyn uwch na 582,000 a gyhoeddwyd deng mlynedd yn ôl tybiwn i.

O bosib, mwy na 600,000 am y tro cyntaf ers hanner canrif.

Gwyn ein byd …

Yn y chwedegau cynnar yr oedd rhagweld ffigwr o dua 600k yn ddigon i frawychu Saunders Lewis (a sawl un arall).

“Mi ragdybiaf y bydd y ffigurau a gyhoeddir cyn hir yn sioc ac yn siom i’r rheini
ohonom sy’n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg. Mi ragdybiaf hefyd y
bydd terfyn ar y Gymraeg yn iaith fyw.”

Wedi treulio tipyn o amser yng Nghymru’n ddiweddar mae gennyf dipyn o syniad am yr hyn fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Llun y 10fed o Ragfyr.

Mi ragdybiaf y bydd y ffigurau a gyhoeddir yn dangos rhifau calonogol a allai dwyllo pobl dda.

Mi ragdybiaf y bydd y ffigurau a gyhoeddir yn tawelu pobl ddi-ddim sy’n ysgrifennu rwtsh am y Gymraeg tipyn bach.

Mi ragdybiaf y bydd y ffigurau a gyhoeddir yn dweud nemor ddim am y busnes “iaith byw”.

Fydd’na ddim “sioc” na “siom”, fe fydd’na ffigurau.

Dyna’r cwbl.

Nid ffeithiau mo ffigurau cofiwch.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 Awstralia mae’na fflat ar Albion Street, Brunswick West, Victoria sy’n aelwyd Cymraeg ei iaith.

A dyma drigolion y Fro Gymraeg anhyhgoel hon ym maestrefi Melbourne.

Andy

Andy

Tydfil

Tydfil

Cyn i mi fynd, cwpl o ragfynegiadau.

Gwyddeleg yng Ngogledd Iwerddon (2001 – 115,731) yn fwy na 150k.  Canlyniad o wleidyddiaeth.

Gaeleg yn yr Alban (2001 – 58,652) yn 55-60k. Canlyniad o is-deitlau ar sianel deledu.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s