Plwyfoldeb byd eang

A minnau’n coginio, smwddio a blogio mewn fflat bach mewn maestref digon di-nod yn ninas Melbourne ac mae pob dim sy’n ymwenud ag etholiad yr Unol Daleithiau o flaen fy llygaid a’m clustiau.

Wrth deipio yr wyf yn gwrando ar radio cyhoeddus y UD (www.npr.org), edrych bob hyn a hyn ar wefan y New York Times (http://www.nytimes.com/) a gwylio PBS (http://www.pbs.org/newshour/)  ar  yr un pryd.

Aml-gyfryngol myn uffern i … ac yr wyf wedi gwneud y gwaith glanhau hefyd !!!

Bendith ein hoes yw cael gwybod o’r fan a’r lle am yr hyn sy’n digwydd ar ddyddiau fel heddiw.

Cael gwybodaeth a dadansoddiad gan y bobl sy’n gwybod pethe i’w carn.

Felly, gaf i ofyn gwestwn bach.

Pam ar wyneb y ddaeaer y mae 4 o’r 5 rhwydwaith teledu yn Awstralia yn cynnal eu rhaglenni etholidaol a hithau’n 2 o’r gloch y prynhawn ?

Mae’r bobl glyfar yn dweud wrthom byth a hefyd am byd-eangrwydd y rhyngrwyd ond mae’r cyfryngau’n dal i’n trin ni fel petai ein bod ni’n dibynnu arnynt o hyd am bob tamaid o newyddion.

Nid oes prinder adnoddau am ddarllediau fel heddiw er bod ‘na blethora o ffynhonellau dibynadwy ar hyd ac ar led y we.

Ai gwasanaeth neu ymdrech i bocedu treuliau teithio yw’r llu o’r rhaglenni gan ohebyddion o bell tybed ?

Jyst gofyn.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s