Ar ddiwedd y gân daeth y gwir

Yr oedd yn rhaglen deledu broffesiynol ac,  yn ôl y ffigurau gwylio ar draws Ewrop, un llwyddiannus.

Ond rhaid dweud nad oedd Eurovision 2012 yn ddigwyddiad hapus.

Ceisiodd yr awdurdodau yn Azerbaijan eu gorau glas i ddangos y wlad fel un fodern a sgleiniog.

Ond er gwaethaf y gwariant enfawr i wneud y brifddinas Baku yn lle neis-neis i’r miloedd o ymwelwyr a ddaeth i weld “Cân i Ewrop” daeth y gwirionedd i’r wyneb.

Dyna’r hyn mae’r gwirionedd yn tueddu gwneud.

Nid yw Azerbaijan yn lle hawdd.

Mae sawl yn dadlau nad yw hi hyd yn oed yn rhan o Ewrop.

Ond roedd llygaid Ewrop arni am dair awr a hanner nos Sadwrn ddiwethaf.

Roedd y sioe’n ddigon derbyniol ac yr oedd y gân fuddgol yn rhagorol … ac eironig.

Sweden gipiodd y Grand Prix.

Gwlad sydd wedi ymgyrchu’n ddygn dros hawliau dynol yn ennill y wobr fawr mewn gwlad lle mae’r hawliau hynny yn fregus a ddweud y lleiaf.

Son am yin ac yang !

Ac ers nos Sadwrn fe gafwyd ambell i arwydd am ddiffyg ffitrwydd Azerbaijan fel lleoliad y Eurovision, digwyddiad a grëwyd mewn ymgais i greu Ewrop newydd ar ôl cyfalafan 1939-45.

Yn gyntaf, cyhoeddodd yr awdurdodau yn Baku bod tua 40 o eithafwyr wedi’u harrestio a dau wedu’u lladd am eu rhan mewn cynllwyn honedig i ymosod ar yr Eurovision.

Y gwestiwn yw a ddylai’r telediad wedi mynd yn ei blaen o dan y fath amgylchiadau … honedig.

Aeth y gystadleuaeth yn ei blaen er gwaethaf pawb a phopeth ac yr oedd pethe ar eu gwaethaf pan ddaeth seren y perfformaid egwyl ar y llwyfan.

Pwy oedd e ? Cyn-enillydd Eurovision ? Dawnswyr gwerin ? Acrobats ?

Na – y seren oedd mab-yng-ngyfraith yr Arlywydd, Emin Agalarov !!!

Yr wyf wedi gweld gwell berfformiadau mewn nosweithiau llawen colegol meddwol.

Ond mab-yng-ngyfraith yr Arlywydd yw e wedi’r cyfan felly mae’n haeddu cael ei weld gan ddegau o filyniau o bobl.

Yn fwy difrifol, mae’na dystiolaeth yn dod i law nad oedd popeth yn braf yn Azerbaijan.

Cafodd newyddiadurwyr o Norwy gryn broblemau wrth adael y wlad am eu bod nhw wedi gofyn am sefyllfa pobl hoyw a lleiafrifoedd eraill yn y wlad.

Gyda sawl un yn gofidio am ddyfodol y Eurovision oherwydd olion 2012 mae’na bwysau i wneud y swir na fydd yr ESC byth yn cael ei chynnal mewn gwlad lle mae democratiaeth a hawliau dynol mor arwynebol.

Yr wyf yn gefnogwr selog o’r Eurovision ers fy mlentyndod – ewch i JoyEurovision.com i weld y dystiolaeth !! – ond mae fy nghariad tuag o dan fygythiad reit ddifrifol.

Nid yw’n nos da ar yr ESC eto i mi.

Pan aiff y Grand Prix i Sweden ym 2013 mae’na obaith o ddigwyddiad na fydd yn esgus am bropaganda a mwy.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s