Ni allaf ddianc rhag hon

Nid oes dwywaith amdani.

Nid oes dianc.

Nid oes heddwch.

Mae’n rhaid i mi daclo digwyddiad mwya’r wythnos – le Concours Eurovision de la chanson

Mae’n yr hen Eurovision wedi bod yn rhan o’m mywyd ers plentyndod ac yr wyf wedi bod yn fwy-fwy gysylltiedig â hi eleni trwy JoyEurovision.com.

Yn wir, pe taswn i’n datgan y ddau beth teledol wnaeth ddylandwadu mwyaf arnaf fe fyddwn yn dweud “Eurovision” a “Heddiw” ar drosglwydydd Holme Moss !!

Fe fyddaf yn son am ddylanwad Owen Edwards, Hywel Gwynfrin a Mary Middleton rhywbryd yn y dyfodol, ond ni allaf ddianc rhag son am y gystadleuaeth ganu a gynhelir nos Sadwrn ym mhrifddinas Azerbaijan.

Yn wir mae’r cwbl lot yn cychwyn heno (amser Baku) gyda’r cyntaf o’r rowndiau cyn-derfynol.

Fe fydd 42 o wledydd yn ymgiprys am y Grand Prix  ac fe fydd y trefnwyr, Undeb Darlledu Ewrop/European Broadcasting Union yn ceisio eu gorau glas i son byth a hefyd am ochr bositif y digwyddiad.

Ond rhaid i ddweud bod ganddynt jobyn go annodd o’u blaenau.

Fel y soniodd rhaglen Panorama (http://www.bbc.co.uk/programmes/p00sx91x) nid yw pethe’n braf i lawer o drigolion Baku ac nid yw dyfodiad Eurovision i Azerbaijan wedi gwella eu sefyllfa.

Dymchwelwyd nifer sylweddol o gartrefi wrth i’r stadiwm newydd lle cynhelir Eurovision gael ei godi.

Ac mae’na gwestynau niferus am hawliau dynol yn Azerbaijan, yn enwedig o’r sawl sy’n hoyw.

Mae’na garfan gref y tu fewn i’r wlad a’i llywidraeth sy’n anhapus bod y gystadleuaeth yn denu nifer sylweddol o wrywgydwyr a lesbiaid .

Yn ychwanegol, cafwyd ymosodiadau ar wefannau sy’n ymwneud ag Eurovision a’r cefnogwyr niferus .

O gyfeiriad Iran ddaeth yr ymosodiadau yw’r gred gyffredinol.

Wythnos nesaf, pan aiff y syrcas deledu o Baku beth fydd tynged y mudiad hoyw ifainc a bregus ?

Beth a ddigwyddith i’r mudiadau hawliau dynol yn y wlad?

Peidiwch â meddwl am eiliad bod canu’n unig sy’n digwydd yn Baku bell i ffwrdd yr wythnos hon.

Ond yr wythnos nesaf sy’n peri gofid i mi.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s