Gwleidyddiaeth hyll

Mae’na adegau pan aiff chware bach y byd gwleidyddol yn mynd yn rhy bell.

Mae’na adegau pan welwch y gwaethaf o’r busnes frwnt o geisio ennill pleidleisio.

Mae’na adegau pan na ddylech gadw’n dawel.

Mae’n bryd i mi ddweud yn blaen rhai o’m hofnau sydd wedi codin sgil 30 eiliad o deledu mewn ffurf hysbyseb etholiadaol yn Queensland.

Mae’r hysbyseb yn “hyrwyddo” “Bob Katter’s Australian Party”* – plaid sy’n mynnu y dylid dychwelyd i hen werthoedd Awstralia.

Y Campbell Newman y mae’r hysbyseb yn son amdano yw arweinydd yr wrthblaid – yr LNP – sy’n debygol o ennill grym oddi wrth Lafur ar y 24ain o Fawrth.

Nawr, nid wyf am fynd i mewn i ddyfnderoedd gwleidyddiaeth Queensland.

Yn hytrach yr wyf am bendroni rhy ychydig am ddyfnderoedd dyn (a gwraig).

Nid wyd erioed wedi gweld y fath erchylltra mewn gyrfa o weld pethau gwael o bob lliw a llun.

Mae’r “ffram” uwchben yn dweud y cyfan.

Nid hysbyseb gwrth-briodas hoyw mo hon.

Nid damwain a hap yw dangos par – y naill yn ganol oed a’r llall yn ifainc.

Bwriad y hybyseb yw nid yn unig gwneud pwynt am briodasau hoyw ond i ddweud yn blwmp ac yn blaen bod ‘na rywbeth o’i le gyda “nhw” e’u rhywioldeb.

Smo nhw’n bobl ffit.

Smo nhw’n bobl go iawn.

Smo nhw’n llawer uwch nag anifeiliaid.

Mae’r hysbyseb yn alwad i’r sawl sy’n credu nad yw pobl hoyw’n cyfrif fel pobl go iawn i wneud rhywbeth yn eu cylch nhw.

Mae rhai wedi “ateb” yr alwad honno eisoes.

Sylwch y geiriau eraill ar ffenestr yr AS Llafur Curtis Pitt  … nid wyf am eu teipio nhw ar eich cyfer.

A draw yn yr Unol Daleithiau, dros y Mor Tawel ond mewn glwad sy’n bell o fod yn dawel ei meddwl am ei sefyllfa a’i dyfodol, mae’na wleidyddion sy’n son am “dynged ein cenedl” wrth gyfeirio at bethau fel erthylu a hawliau i bobl hoyw.

Mae’na bleidleisiau hawdd ym mhob cwr o’r byd wrth chwarae’r gerdyn gwrth-hoyw, gwrth-dduon, gwrth-foslem, gwrth-sosialaeth, gwrth-bob un sydd ddim yn rhan o’r byd gwyn gwrywaidd sy wedi gwenud cystal jobyn ohoni hyd yma.

Na ddylid byth anghofio hanes.

Un diwrnod mae geiriau afiach yn destun trafod a sbort.

Y diwrnod nesaf mae’r geiriau hynny yn ddeddf gwlad.

Ymateb eithafol i hysbyseb dwp ?

Fe gawn ni weld.

*Mae Bob Katter yn AS yn senedd cenedlaethol Awstralia, yn “annibynnol” o ran plaid.  Mae ganddo hanner-frawd sy’n hoyw …

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s