Cân i bwy ? Gwarth Eurovision

Yr wyf yn dipyn o ffan o’r hen “Gân i Ewrop” neu fel y dylwn i ddweud y “Concours Eurovision de la chanson”.

Ewch i weld dyfnder fy ffandra (ffandra !!) ar wefan  JoyEurovision.com.

Felly rhaid i mi ddweud yn blwmp, yn blaen a heb yr un flweyn ar fy nhafod barablus bod penderfyniad y BBC i ddewis hen ganwr o grwner i gynrychioli a Deyrnas Unedig yn yr Eurovision yn Baku eleni.

Engelbert Humperdinck  ?

O ddifri ?

Scersli bilif !

Boed yn dacteg ddychanol neu’n benderfyniad sy’n seiliedig ar ymchwil trylwyr  mae’n warth o’r safon isaf.

Nid oedd Englebert Humperdinck yn “seren” i neb ond mamau canol oed yn y chwedegau.

Cam gwag os buodd un erioed.

Mae’r penderfyniad yn sarhad ar y cerddorion ifainc sy’n canu ar lwyfan neu ar-lein led-led yr Ynysoedd Prydeinig.

Ac mae’r sarhad ar ei fwyaf wrth feddwl am yr hen wlad y gân fondigrybwyll.

Nos Sul cynhelir “Cân i Gymru“.

Cystadleuaeth i ddewis cân Gymraeg i gynrychioli cenedl.

Cystadleuaeth. 

Y farchnad gerddorol yn ei holl ogoniant.

Fe fydd ‘na ymgiprys, ni fydd rhwydd hynt i unrhyw hen ganwr a oedd yn enwog i raddau degawadau yn ôl fynd a hi heb fawr ddim ymdrech.

Meddyliwch bobl, Cymru ar y blaen o beiriant a gynhyrchiodd “Congratulations” a “Making Your Mind Up” !!!

Nid yw’r Eurovision yn ymwneud a’r caneuon yn unig.

Mae’n adlewyrchiad o’r sefyllfa ehangach sydd ohoni.

Gwleidyddiaeth.

Cymdeithaseg.

Athronyddiaeth.

Beth yw dewis Engelbert ac anwybyddu “Cân i Gymru” yn dweud am y DU ?

Hen gyfundrefn ffaeledig ar ei gwely angau tybiwn i.

Mae gan Gymru gynllun.

Mae gan Gymru weledigaeth.

Mae gan Gymru ddyfodol.

Peth bach iawn yw  “Cân i Gymru” ond peth i ymfalchio yn ei chylch yw hi.

1 Sylw

Filed under Uncategorized

One response to “Cân i bwy ? Gwarth Eurovision

  1. DaiBev

    Gerry Dawsey, ie ? Iesu ma’ pethe’n wael nawr…….

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s