Buddugoliaeth go iawn

Ennillodd Julia Gillard arweinyddiaeth y Blaid Lafur Awstraliaidd (swydd Prif Weinidog y wlad) ym mis Mehefin 2010 heb ennill bleidlais.

Ffurfiodd hi lywodraeth lleiafrifol wythnosau yn ddiweddarach wedi iddi hi a’i phlaid methu a pherswadio digon o etholwyr eu bod nhw’n ffit i reoli’r wlad.

Y ddau ddigwyddiad yna sydd wrth wraidd  holl helyntion gwleidyddiol Awstralia yr wythnos ddiwethaf a ddaeth i ben ddaeth i ben heddiw.

Nid oedd ganddi awdurdod personol am ei safle gwleidyddol.

Doedd hi ddim wedi ENNILL yr hawl i fod yn arweinydd Llafur na Phrif Weinidog.

Mae ganddi ail-gyfle wedi ei buddugoliaeth rwydd (a go iawn) yn erbyn Kevin Rudd yn Canberra.

71 – 31 oedd y bleidlaid o blaid y ferch bengoch o’r Barri.

Ennillodd Gillard bleidlais heddiw fel Julia Gillard.

Roedd digon o’i chyd-ASau o’i plaid hi.

Y tro cyntaf ennillodd hi dim byd ond cefnogaeth y dynion rhifau (numbers men) y tu ol i’r llenni mewn ystafelloedd mwglyd yr ALP a oedd wedi hen syrffedu ar ddiffygion niferus Rudd.

Yr oedd hynny’n ddigon i gael gafael ar arweinyddiaeth y Blaid Lafur OND yr oedd ymhell o fod yn ddigonol i’w sefydlu hi fel arweinydd “go iawn”.

Roedd Julia Gillard yn wleidydd talentog iawn cyn i’r dynion rhifau ei gweld hi fel y ffordd orau o gael gwared o K Rudd.

Mae’n bryd iddi ail-ddangos ei doniau.

Mae ei dyfodol yn ei dwylo hi.

Eisoes mae’na arwyddion bod yr holl eiriau chwerw a chas wedi cael effaith.

Mae un o’r  dynion rhifau a di-wynebog a wnaeth ei dyrchafu hi  i’r arweinyddiaeth wedi ymddiswyddo.

Mae’r gasineb a guddwyd am fisoedd wedi cael ei gwyntyllu, fe ddylid disgwyl gweld Llafur ar ei newydd wedd o hyn allan.

Ond os ni chenir “Solidarity for ever” rhwng nawr a’r etholiad nesaf, yna fe fydd yn “nos da” arni.

 

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s