Ar drothwy y drychineb nesaf

Cynhelir pleidlais ar arweinyddiaeth y Blaid Lafur Awstraliaidd bore fory (dydd Llun y 27ain Chwefror) ond nid diwedd y mater fydd canlyniad y bleidlais honno.

Fel yr wyf  wedi blogio o’r blaen, mae gwreiddiau’r frwydr rhwng Julia Gillard a Kevin Rudd yn deillio o’r noson honno pan benderfywyd cael gwared o’r dyn a ddisodlwyd John Howard fel Prif Weinidog.

Dyma flas o’r hanes: Yma o hyd, Dweud y gwir, Gwleidyddion yn cusanu.

Rhaid i mi gyfaddef bod’na lawer o ail-ddweud yn y blogiau hyn (a phob un arall sy’n perthyn i wleidyddiaeth Oz) OND os “ail ddweud” sydd wrth eich bodd fe ddylech chi AR UNWAITH achub y cyfle i wylio’r ddau wasanaeth newyddion teledu di-dor y wlad hon – ABC News 24 a Sky News.

Ers dyddiau mae’r hen bennau siarad wedi bod yn siarad … a siarad … a siarad.

Y disgwyl yw y bydd Gillard yn ei hennill hi, ond maint y mwyafrif yw’r cwestiwn mawr.

102 ASau a Seneddwyr sy’n aelodau o’r garfan Lafur.

Dywedir na fydd Kevin Rudd yn ennill mwy na rhyw deg ar hugain o bleidleisiau.

Pe tai’r 30 yn 35 neu 38 … yna fe fydd ei “golled” yn fuddugoliaeth.

A phe tai’r 30 yn 25 neu’n llai mae’na gyfle y bydd yn rhoi’r ffidl yn y to a gadael y Senedd a chreu arfwng newydd i lywodraeth lleiafrifol trwy is-etholiad.

Fe gewch glywed y canlyniad yfory … fe fyddaf yn siarad yn ei gylch ar Radio Cymru !!

Yn y cyfamser, tipyn bach o adloniant.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s