Ras ryfedd

Mae’r chwarae’n troi chwerw.

Gillard yn erbyn Rudd ac fe fydd y cyn Brif Weinidog (a’r cyn Weinidog Tramor a ymddiswyddodd ddoe) yn glanio bore fory.

Yna fe fydd y frwydr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Awstraliaidd (a’r wlad hon) yn cychwyn go iawn.

Fe gewch chi fwy o ddaddsoddi nes ymlaen – ond am y tro, ychydig o ffigurau anwyddonol.

*A ydy Kevin Rudd wedi gweud y peth iawn ? (Pol ar-lein papur newydd yr Age) Ydy 78%  Nag ydy 22% (67,090 yn ymateb).

*Pwy fyse gwell gennych weld yn arwain y Blaid Lafur ? (Pol ar-lein papur newydd y Sydney Morning Herald) Julia Gillard 15% Kevin Rudd 60% Rhywun arall 25% (12,303 yn ymateb).

*A ydych chi o blaid Kevin Rudd yn dychwelyd fel Prif Weinidog ? (Pol ar-lein NineMSN) Ydwyf 59%  Nag ydwyf 41% (81.809 yn ymateb).

*A ddylai Kevin Rudd herio am arweinyddiaeth y Blaid Lafur > (Pol ar-lein papur newydd yr Herald Sun) Dylai 76%  Na ddylai 24% (18,250 yn ymateb).

Am 10 o’r gloch y nos yma ym Melbourne, ar y 23ain o Chwefror, mae’r “arbennigwyr” yn dweud na fydd y ferch ben goch o’r Barri – Julia Gillard – yn colli ei swydd.

Beth yw barn ambell i AS sydd ar fwyafrif o lai na 10% tybed ?

Mmmmmmmmmm.

 

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s