O’r diwedd

Cynhelir pleidlais am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Awstraliaidd ddydd Llun nesaf.

Fe fydd ein Cymraes o Brif Weinidog, Julia Gillard, yn cyhoeddi’r balot bore fory.

Ers misoedd mae’r frwydr rhwng lluoedd Ms Gillard a’r cyn Brif Weinidog Kevin Rudd wedi llenwi llawer gormod o dudalennau a gofod ddarlledu.

Wedi rhyfel ffug – phoney war – mae’r ymladd go iawn wedi dechreu ers dydd Sadwrn

*Rhyddhau fideo o Kevin Rudd yn colli ei dymer.

http://www.youtube.com/watch?v=uOUFKZBpFTY

*Ymosodiad ar Rudd gan gyn arweinydd Llafur arall, Simon Crean.

http://www.youtube.com/watch?v=rpIp6OH2lhs

*Ymddiswyddiad Kevin Rudd fel Gweinidog Tramor tra ar daith i’r Unol Daleithiau.

http://www.youtube.com/watch?v=dxNJIplM-I0&feature=related

Mwy am gyhoeddiad Rudd yn y fan hyn.

Mae gwleidyddiaeth Awstralia’n gem fudr ar y naw.

Gem lle mae’r dyn (neu ddynes) yn cael ei chwarae nid y bel.

Fe fydd Rudd yn ol yn y wlad dydd Gwener ac yn ei dalaith enedigol Queensland lle cynhelir etholiad taleithiol mis nesaf gyda Llafur lleol yn gwynebu crasfa.

Smonach, siop siafins, nonsens.

A chyda llaw, y Blaid Lafur yw ein plaid llywodraethol.

 

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s