Datblygiadau mawr

Mae giamocs sydd yn mynd ymlaen yn rhengoedd y Blaid Lafur Awstraliadd y dyddiau hyn ymhell y tu hwnt i adloniant.

Ers iddi ddisodli Kevin Rudd fel arweiynydd y Blaid (a Phrif Weinidog y wlad) ym 2009 mae’r ferch ben-goch o’r Barri AKA Julia Gillard wedi mynd o’r naill drychineb wleidyddol i’r llall.

A heddiw daeth, o bosibl, y drychineb fwyaf oll i’w rhan ac i’w phlaid.

Ymddiswyddodd y cyn Brif Weinidog Kevin Rudd fel y Gweinidog Tramor a thrwy wneud hynny – a minnau’n teipio ond munudau wedi’r cyhoeddiad – dod ag argyfwng yr arweinyddiaeth i le peryglus iawn i’r ddwy garfan sydd wedi bod yn ben-ben i’w gilydd ers cael gwared o Rudd yn 2009.

Mwy am gyhoeddiad Rudd yn y fan hyn.

Daeth cyhoeddiad Rudd draw yn yr Unol Daleithiau mewn da bryd ar gyfer prif fwletinau teledu’r wlad a hithau’, 1.20 y bore yn Washington.

Mae cyfnod y Gymraes fel prif weinidog wedi bod yn hynod dramatig, lletchwith ac od.

Roedd ei mis mel gwleidyddol yn fyr iawn.

Yn yr etholiad a ddaeth yn fuan wedyn nid oedd gan Lafur ddigon o ASau i ffurfio llywodraeth mwyafrifol ac yr oedd rhaid iddi wneud cytundebau gydag aelodau annibynnol a’r Gwyrddion.

Roedd ei sefyllfa’n llwyr ddibynnol arnynt ac yr oedd arweinydd yr wrthblaid, Tony Abbott, yn uchel ei gloch wrth atgoffa’r etholwyr amdani.

Ar ben hynny yr oedd gan Gillard ffordd arbenning iawn o gamgyfathrebu a thrwy wneud hynny’n ymddangos fel gwleidydd 100% yn hytrach na pherson go iawn.

Ac yn goron ar y cyfan hi yw’r Brif Weinidog benywaidd cyntaf yn hanes Awstralia.

Roedd y defnydd iaith o’r sawl yn erbyn Gillard yn hyll ar adegau.

Ac yn awr, wedi misoedd o son, sibrydion, adroddiadau a ffug-wybodaeth mae RHYWBETH wedi digwydd.

Wrth i Mr Rudd ymddiswyddo dywedodd nad oedd yn bosibl iddo barhau fel gweinidog heb gefogaeth Ms Gillard.

Dywedodd hefydd fod rhaid cael gwared o’r “factions” a’u rheolaeth dros y Blaid Lafur ac fe fydd yn siarad gyda’i deulu a’r gymuned cyn cyhoeddi ei gynlluniau nesaf.

Dywedodd hefyd yr oedd yn bryd i siarad yn blaen.

Yn gloi ac yn meddwl ar fy nhraed, yr wyf yn rhagweld naill ai pleidlais am arweinyddiaeth yr ALP wythnos nesaf a gwaed ym mhob man NEU Rudd yn ymddiswyddo fel AS ac is-etholiad lle byddai Llafur yn colli’r sedd A grym yn Canberra.

Bois bach mae’r busnes bolitics yn y wlad hon yn frwnt.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s