Terfysg neu … ?

Mae gan y cyfryngau Awstraliaidd dueddiad i or-ddweud pethe.

Ie, ie, ie.

Fel newyddiadurwr fy hunan (noder yr italics gyda llaw) yr wyf yn ymwybodol iawn bod gor-ddweud yn bodoli ym mhob cwr o’r byd lle mae aelodau o’m profession (noder yr italics gyda llaw) yn gweithio.

Ond yn Oz …

Mae cwpl o drenau’n cael eu gohirio’n “argyfwng trafnidiaeth cyhoeddus”, mae gem fach o griced yn golygu bod “llygaid y byd” ar y wlad ac mae ychydig eiliadau o stwr yn “derfysg”.

Nawr, fel un a weithiodd i orsafoedd radio Darlledu Caerdydd,  Sain Abertawe a Radio Cymru ar sawl llinell piced yn ystod streiciau glowyr, helyntion Wapping, gwrthdystiadau iaith ac ati mae gennyf eithaf syniad  beth yw “terfysg” a’r rhesymau cymleth sydd y tu ol iddi.

Nid terfysg mo’r digwyddiad yn Canberra ar y 26ain o Ionawr, Diwrnod Awstralia.

Nid oedd hi yn brotest heddychlon chwaith, ond wrth gymharu a rhai o ddigwyddidau a welais yng Nghymru yn ystod yr 80au yr oedd yn “chwarae bach”.

Bach iawn.

Aeth degau o bobl o’r Aboriginal Tent Embassy oedd wedi cythruddo gan eiriau honedig arweinydd yr wrthblaid Tony Abbott amdanynt i dy bwyta yn Canberra lle’r oedd Mr Abbott a’r Brif Weinidog Julia Gillard yn mynychu  cinio gwobrwyo Australia Day.

Mae’r drafodaeth ar yr hyn a ddigwyddodd wedi canolbwyntio ar ymddygiad y protestwyr a honiadau yr oedd gan swyddogion y llywodraeth Llafur bysedd yn y mêl.

Y sawl sy wedi dianc rhag feirniadaeth ar y cyfan yw’r heddlu.

Fel arfer.

I’m llygaid i yr oedd eu tactegau amddifyn y gwleidyddion y’n wael ar y naw a’u hymddygiad yn annisgybledig.

Nid wyf am eiliad am drin protest swnllyd Canberra fel rhywbeth “dim byd” OND bois bach beth am ddefnyddio iaith go iawn am y peth.

Ac mae gan y Cymry’r geiriau perffaith.

Smonach a siop siafins.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s