Gwlad eithafol

Mae gwyrdd a melyn ym mhob man.

Baneri ar nifer sylweddol o geir.

Ac mae ambell i  chop  a stecen yn cael ei losgi’n ulw.

Ond ar yr Oz Day hwn mae’r criced, y BBQs a phob dim arall wedi’u llugo i’r neilltu agn brotest yng Nganberra.

Mae’r Brif Weinidog AKA y ferch ben-goch o’r Barri wedi cael amser dramatig  gyda phrotestwyr aboriganiaidd yn creu stwr y tu allan i dy bwyta.

Roedd Julia Gillard (ac arweinydd yr wrthblaid Tony Abbott) yn gaeth yn yr adeilad am gyfnod oherwydd gwrthdystiad gan gefnogwyr yr “Aboriginal Tent Embassy” a godwyd o flaen hen Senedd-dy’r wlad 40 mlynedd yn ol.

Mwy am y stori:

Yn wir, mae digwyddiau’r 26ain o Ioanwr eleni yn dystiolaeth o’r ffaith ei fod bod ddiwrnod o ddathlu a chymlethdodau, dicter a digrifwch.

Dyma’r dydd ym 1788 pan gyrhaeddodd Capten Cook Bae Botany gan hawlio tir yr ynys enfawr hwn am y goron er bod miloedd o bobl wedi bod yn byw ar y tir mawr ers miloedd o flynyddoedd.

Fel sawl “traddodiad” Awstraliaidd mae’n weddol newydd.

Fe’i adnabyddwyd fel “Anniversary Day” neu “Foundation Day” am gyfnod hir a dim ond yn y tridegau cafodd y teitl “Australia Day” ei ddefnyddio ar draws Awstralia benbaladr. (http://www.australiaday.org.au/australia-day/history.aspx)

Ac wrth i’r genedl chwifio eu baneri mae sawl un trigiannydd yn gwynebu diwrnod caled yn wyneb natur.

Yng Ngorllewin Awstralia mae’na dannau i’r gogledd o Perth wrth i’r tymheredd gyrraedd DEUGAIN gradd a mwy !

Tra yn ne Queensland a gogledd De Cymru Newydd mae’na lifogydd difrifol.

Eithafon tywydd sy’n creu rhan o gymeriad Oz a’i phobl.

A nid oes rhyfeddd bod elfennau eraill yn y cymeriad hwnnw yn “eithafol” hefyd.

Yng ngeiriau’r bardd  Dorothea Mackeller yn ei cherdd “My Country”:

I love a sunburnt country,
A land of sweeping plains,
Of ragged mountain ranges,
Of droughts and flooding rains.

I love her far horizons,
I love her jewel-sea,
Her beauty and her terror
The wide brown land for me!

Advertisements

1 Sylw

Filed under Uncategorized

One response to “Gwlad eithafol

  1. Bydd yn ddiddorol gweld os gyrhaeddith y stori yma y MSM (main stram media, nid gwasanaeth Microsoft!) ym Mhydain – nid mod i’n dilyn hwnnw bellach – mae amrywiaeth gwell o straeon a rhai mwy cytbwys i’w cael ar y Blogiadur y dyddiau hyn…

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s