Gwlad y gân yw Cymru meddan nhw. Wel, nid yw’r “nhw” yn gwybod rhyw lawer am ganu neu gantorion yn fy marn i.
Y bobl biau’r gân nid unrhyw ddarn o dir neu rhyw syniad o genedl.
Ac un o’r bobl mwya arbennig wrth ddelio a’r gân oedd yr Americanes Etta James a fu farw yn 73 oed.
Boed yn “blues”, “R&B”, “rock ‘n roll”, “jazz” neu ganu crefyddol yr oedd Etta James heb ei hail.
Roedd ganddi hi’r gallu i wneud cân yn rhywbeth yn boenus o bersonol – iddi hi ac i’r gynulleidfa.
Hwyrach, roedd ei bywyd caled i’w gyfrif am hyn.
Ar ben plentyndod tlawd daeth cyfnodau maith mewn ysbytai fel oedolyn oherwydd ei phroblemaua gyda chyffuriau.
Ond er gwaethaf pawb, popeth a heroin cododd ei llais i fynd a ni i’r uchel nefoedd.
Roedd ei dylanwad yn eang ac mae’na lu o gantorion benywyaidd cyfoes sy’n benderfynol o sicrhau parhad y dylanwad hwnnw.
Fel dywedodd un ohonynt, Bonnie Raitt: “There’s a lot going on Etta James’ voice … a lot of pain, a lot of life, most of all, a lot of strength. She can be so raucous and down one song, and then break your heart with her subtlety and finesse the next. As raw as Etta is, there’s a great intelligence and wisdom in her singing.”
Un arbennig oedd Etta James.
Canu stori, gwneud hanes yn gerddorol, dweud gwirioneddau mewn cân.
Etta James.
Diolch amdani.