Meddyliau Agored

Y tenis sy’n teyrnasu ym Melbourne am y bythefnos nesaf.

Mae’r Open wedi dechreu ac mae’r ddinas yn for o gefnogwyr Sharapova a Safin, Clijsters a Djokovic, Murray a Williams sydd i’w gweld yn crwydro’r strydoedd gyda mapiau a photeli dwr yn eu llawiau.

Yn ol bois y tywydd fe fydd yr haul yn bihafio trwy gydol y gystadlaeuath, ond mae’na gwmwl back uwchben Melbourne Park sy’n gysylltiedig ag enfys.

Barn un o’r chwaraewyr tenis gorau a gynhyrchwyd gan y wlad hon, Maraget Court (http://en.wikipedia.org/wiki/Margaret_Court), sy’n cael ei herio gan ymgyrchwyr hawliau hoyw.

Yn ol y papur bach, yr Herald Sun (un o gyhoeddiadau News Ltd) “GAY rights activists plan to storm the Australian Open in protest at anti-gay comments by Australian tennis champion Margaret Court.”

Mae’r ymgyrchwyr yn bwriadu mynd a baneri’r enfys a gwisgo crysau-t enfysaidd  i’r tenis fel “datganiad” o’u gwrthwynebiad i’r hyn mae Ms Court, sy’n gweinidog gydag egwlys pentecostalaidd, wedi dweud am wrywgydiaeth ac yn y blaen.

Er enghraifft,  “politically correct education has masterfully escorted homosexuality out from behind closed doors, into the community openly and now is aggressively demanding marriage rights that are not theirs to take”.

Gwir grefydd y wlad hon yw chwaraeon ac mae’na bulpud parod i unryw un sy a thipyn o allu gyda bat neu raced neu bob math o beli.

Cyn agor yn gyhoeddus  eich ceg fe ddylech chi feddwl ac ystyried. 

Dweud eich barn yn blaen ac yn ddi-dwyll, ond peidiwch a defnyddio iaith liwgar neu beryglus.

Mae gan Margaret Court bob hawl i ddweud eu dweud fel unigolyn…un o dros 20 miliwn sy’n byw yn y wlad hon.

Nid yw ennill Grand Slam yn eich dyrchafu chi ilwyfan cenedlaethol neu’r nefoedd.

Gawn ni weld pa liwiau a welir o gwmpas un o brif gyrtiau’r Open – Margaret Court Arena.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s