E-byst, pissed off

Gaf i yn gyntaf ymddiheuro i’r sawl sy wedi’u cythruddo gan fy nefnydd o eiriau anweddus/Saesneg yn nheitl y blog hwn.

Cywilydd arnaf, ond …

Yn ol ym Mis Hydref fel sgwennais hwn at y BBC .

Yn fras, yr oeddwn yn gofyn faint o gynnyrch Gymraeg a Gaeleg fyddai ar gael ar eu iPlayer Byd-Eang.  Daeth ateb yn ol (yn Gymraeg) gan BBC Cymru yn fy nghyfeirio at wefan BBC Worldwide.  Danfonais e-bost arall at y corff pwysig hwnnw ac hyd yma nid wyf wedi derbyn yr un gair mewn unrhyw iaith dan haul y blaned hon.

Mmmm.

Rwyf newydd ddanfon e-bost arall.  Yr ymateb sydyn: “Thanks you for your comments. Your message has been sent to our Corporate Communications team and will be passed to the relevant business area.”

Gawn ni weld.

Yn hen ddyddiau tywyll danfon llythyrau nid oedd modd gan gorff neu gwmni neu glwb osgoi eu cyfrifoldeb i’w hateb.

Nid felly y mae gydag e-byst.

Mae sawl cwmni – Amazon er enghraifft – yn wych wrth ymateb o fewn 24 awr.

Mae sawl un arall – BBC Worldwide yn eu plith – yn warthus o araf neu’n “oddefol ymosodol” (passive aggressive yn ol Google Translate).

A ninnau mewn oes aur o gyfathrebu meddan nhw.

Fel rwyf wedi dweud o’r blaen  mae’n siom a methiant bod S4C/BBC Cymru/Cynhyrchwyr eraill yn methu a daparu dim ond DWY raglen yr wythnos ar-lein.

Siom i ni – y diaspora Gymraeg (Gael yw unrhyw un sy’n medru’r Aeleg gyda llaw) a methiant ar ran y cyrff darlledu i ehangu eu cyraeddiad ac, o bosib, eu cyllidebau.

A ddaw e-bost neu byst i godi fy nghalon ar drothwy 2012 tybed ?

Neu a ddylwn i brynu stamp bost-awyr ?

1 Sylw

Filed under Uncategorized

One response to “E-byst, pissed off

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s