Newidiadau

Mae’r Brif Weinidog Awstralia wedi newid ei chabinet.

Mae dewiswyr tim criced Awstralia yng nghanol trafodaethau am newidiadau mawr hefyd ar ol colli i Seland Newydd. (http://www.abc.net.au/news/2011-12-12/australia-v-new-zealand-day-four-summary/3727126?section=sport)

Cwis fach.  Pa stori sy’n mynd a bryd yr Aussies  ?

Cywir – y criced !!

Yr oedd perfformiad yr Aussies (http://www.abc.net.au/news/2011-12-12/aussie-test-loss-raises-questions/3727406?section=sport) yn drychinebus o wan.

Diffyg dyfal barhad, diffyg ysbryd go iawn a llawer mwy o ddiffygion.

Yr oedd’na adeg pan yr oedd yr Aussies yn cyflwyno chwaraewyr ifainc, di-brofiad yn rheoliadd.

Nid oedd hanes yn cyfrif wrth feddwl am ddewis tim.

Nid felly y mae hi y dyddiau hyn.

Mae Ricky Ponting yn y tim o hyd (https://anndraobell.wordpress.com/2011/03/29/cymeriad-a-chapten-a-thipyn-o-gonundrum/) er iddo fethu a dangos ei ddoniau disglair yn glir am gyfnod hir.

Mae’na eraill sy dros eu deg-ar-hugain sy hefydd yn dal yn y time ar sail perfforiamiadau’r gorffennol a dim byd arall.

Rhaid dweud nid yw pob chwaraewr ifainc a gyflwynwyd i’r tim wedi llwyddo chwaith.

Mae’r batiwr ymosodol Phillip Hughes wedi methu tro ar ol trol wedi’i ddal yn y slips.

Mae effaith criced cloi’r T-20 yn amlwg i bawb.

Yn wir, mewn pedair batiad yn erbyn Seland Newydd mae e wedi’i ddal gan Martin Guptil oddi ar fowlio Chris Martin … pedwair gwaith !

Ys dywed y cyn-fowliwr araf Kerry O’Keefe ar radio’r ABC – “if Phillip Hughes nicked himself shaving tomorrow Martin Guptil would leap out of the bathroom cabinet with a band-aid”.

India yw gwrthwynebwyr nesaf Awstralia gyda phrawf gyntaf yma ym Melbourne yn cychwyn ar Dydd San Steffan.

Dyddiau diddorol.

Mwy am y gwleidyddiaeth yn y man.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s