Penwythnos “ddiddorol”

Mae ein hannwyl Brif Weinidog wedi cael trip fach i Sydney i Gynhadledd y Blaid Lafur Awstraliaidd.

Am unwaith fe gafwyd trafodaethau bywiog ar nifer o bynciau, yn wir yr oedd ‘na emosiwn i’w gweld ar sawl achlysur.

Y trafodaethau a aeth a’r penawdau oedd yn ymwenud a hawliau priodasol ac allforio uranium i India.

Cyfaddawd a gafwyd yn y ddadl am yr hawl i briodi a thrwy hynny wnaeth y Ferch Ben-Goch o’r Barri (AKA Julia Eileen Gillard) osgoi embaras llwyr.

A hithau yn ddi-briod OND yn cyd-fyw gyda’i phartner Tim ac yn rhywun sy wedi dweud yn gyhoeddus nad yw hi’n grefyddol, mae Gillard wedi llwyr ymwrthod a’r syniad o bobl fel fi yn cael yr hawl i briodi.

Scersli bilif, ond yn wir gyfeillion oll.

Pam ?

Nid oes neb yn gwybod yn iawn ond y gred yw ei bod hi’n llwyr ddibynnol ar bobl asgell dde ei phlaid, a daw’r rhan fwyaf o’r rhain o Dalaith De Cymru – y dalaith fwya babyddol yn Awstralia.

Yn y gynhadledd y gyfaddawd oedd newid polisi’r blaid i gefnogi priodasau “hoyw” OND ar yr un pryd rhoi pleidlais rydd ar y mater (digwyddiad prin yn yr ALP) i ASau pan ddaw’r mater i’s Senedd yn 2012.

Ymlaen i bethau byw a bod byd eang … neu’r ddadl niwcliar.

Mae Llafur wedi bod yn gryf  iawn am ddegawadau wrth  beidio defnyddio cyfoeth tanddaearol Oz mewn modd a allai fygwth ein planed mewn ffirydd niwcliar.

(Af i ddim mewn i effaith glo ac yn y blaen ar y blaned yn y blog hwn!!)

Mae’na lawer o uranium dan ein traed yn y parthau hyn – lot fawr.

Felly yr oedd ennill y dydd ac ennill yr hawl i ddanfon y stwff i India yn fuddugoliaeth fawr i Julia G.

Mae India yn wlad ddemocrataidd wrth gwrs ond… ond … ond …

Soniodd Julia am y “national interest” ac yn y blaen tra yr oedd eraill yn ei phlaid yn son am egwyddorion.

Mmmmmmm.

Mae Llafur ar i fyny tipyn bach yn y polau piniwn ar hyn o bryd.  Gawn ni weld pa effaith gaiff y gynhadledd ar y pleidleiswyr.

Am fwy ar gynhadledd ddifyr a bywiog:

“Araith” Julia Gillard am hawliau priodi: http://www.theaustralian.com.au/national-affairs/in-depth/julia-gillards-address-to-the-alp-national-conference-on-a-conscience-vote-for-gay-marriage/story-fnba0rxe-1226213001184 (Nid yw’r geiriau gay neu lesbian ynddi)

Yr elfen grefyddol yn y ddadl am briodi: http://www.theaustralian.com.au/national-affairs/in-depth/labor-faces-pulpit-led-backlash-on-gay-marriage/story-fnba0rxe-1226213649258?from=hot-topics-home

Criced ac uranium, wedi India…Pacistan nesaf ?: http://timesofindia.indiatimes.com/world/pakistan/Me-too-Pak-eyes-India-like-uranium-deal-with-Australia/articleshow/11000742.cms

Edrych yn ol: http://www.abc.net.au/unleashed/3712416.html a mwy fan hyn: http://www.crikey.com.au/topic/gay-marriage/

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s