Problemau paned

Mae ymgyrchoedd etholiadol gwledydd eraill yn od wrth edrych o tu allan.

Ond mae’r pethau mwyaf od yn digwydd draw yn Seland Newydd ar hyn o bryd.

A phaned o de sydd wrth wraidd y broblem.

Tipyn o gefndir.

Mae’r ceidwadwyr (y Blaid Genedlaethol/National Party) mewn grym o dan arweinyddiaeth John Key– cyn-fanciwr rhyngwladol  a ddaeth yn ol SN.

Mae National wedi bod mewn llywodraeth ers 2008 ac yr oedd pethe’n argoeli’n dda am ail dymor hyd nes iddo fynd am baned bach o de.

Oherwydd cyfundrefn gyfrannol pleidleisio Seland Newydd (“Go brin fod yna unrhyw bwnc sy’n fwy at ddant anoracs gwleidyddol na systemau pleidleisio. “) yr oedd John Key yn awyddus i hybu ymgyrch ymgeisydd plaid asgell dde arall – ACT.

Trwy sichrhau llwyddiant John Banks yn etholaeth Epsom fe fyddai gan ACT  seddi yn y senedd nesaf o’r rhestr ac, o ganlyniad, fe fyddai Mr Key mewn sefyllfa gryfach o lawer.

Felly aeth John Key am baned yn gyhoeddus iawn gyda John Banks – “media opportunity” os oedd ‘na un erioed.

Am baned !

Mwy o fanylion yn y fan hyn ac mae’n ddifyr iawn !

Daeth i’r amlwg bod dyn camera wedi gadael peiriant recordio ar y bwrdd ac yr oedd y teclyn “ar yr awyr”.

Damwain a hap meddai’r dyn camera, ymddygiad sy’n peryglu preifratrwydd meddai John Key.

Mae’na adroddiadau bod cynnwys y sgwrs rhwng y ddau John yn “gamechanger” gydag awgrymiadau bod sylwadau anffodus am bobl hyn yn destun rhan ohoni.

Aeth y tap i feddiant un o bapurau SN, y “New Zealand Herald” ond hyd yn hyn nid yw’r papur wedi cyhoeddi cynnwys y tap.

Aeth y storom yn odach byth wrth i John Key alw ar yr heddlu.

Dywed Key (a Banks) bod eu sgwrs yn ddi-nod, ond mae’r holl kerfuffle yn dechreu dylanwadu ar hynt a helynt yr ymgyrch etholiadol.

Ond….

A mwy yn y fan hyn.

Mae hwn yn fwy o sbort na Chwpan y Byd !!

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s