Fawr ddim haf y flwyddyn hon, dim chwerthin chwaith

Mae ‘di bod yn flwyddyn o golli.

Efallai fy mod i’n ganol oed go iawn erbyn hyn, ond 2011 yw’r deuddeg mis gwaethaf o ran marwolaethau o bobl agos a chyd-weithwyr ac afiechydon rhai eraill.

A nid oes taw ar y newyddion gwael.

Y tro hwn marwolaeth Peter Roebuck.

Fel yr annwyl, bythgofiadwy a charedig Carwyn James, bu farw mewn gwesty mewn dinas estron.

Ac fel Carwyn, fe fydd ei farwolaeth ynghlwn wrth sibrydion a mwy am ei fywyd personol.

Yn y diwedd nid oedd bywyd yn wobr i Peter Roebuck bellach – yng ngeiriau anfarwol a thrist Lorenz Hart “life was no prize”.

Cricedwr a ddatblygodd yn sylwebydd craff ac awdur gwych oedd Peter Michael Roebuck.

Ond trwy’r amser yr oedd ‘na rywbeth o’i le.

Wrth ddarllen ei hunangofiant fe sylweddolais yn sydyn iawn yr oedd ‘na fwlch yn ei stori.

Er iddo son am fatiadau i Wlad yr Haf a Phrifysgol Caergrawnt, dadleuon ac anghydfodau gydag Ian Botham a Viv Richards a hanes ei yrfa disglair gyda’r ABC (fy nghyflogwr i) ond dim som am berthnasau agos, personol.

“A very private life of a complex and sometimes troubled man” meddai ol-glawr y llyfr.

Daeth diwedd i’w fywyd dros nos yn Cape Town.

Er ei fod yn Sais, daeth ei lwyddiant cyfryngol yma yn Awstralia ac mae’na wir deimlad o golled.

Bardd criced oedd e ym mhapurau’r Age a’r Sydney Morning Herald.

Ac yr oedd ymhlith y darlledwyr chwaraeon yr wyf wedi clywed erioed.

Wrth wrando ar y clip yn yr eitem hwn fe gewch chi glywed Roebuck ar ei orau ar ddiwrnod olaf ei fywyd yn ystod Gem Brawg 1af rhwwng De Affrica ac Awstralia.

Gwrandewch ar y clip – 6 munud o hyfrydwch chwerw-felys.

Mae’na gwestiynau i’w hateb, mae’na dristwch, mae’na atgotgofion.

Nid dyn hawdd oedd Peter Roebuck.

Cricedwr solet  a fethodd i gamu lan i’r lefel uchaf o chwarae ond a lwyddodd i godi safonau newyddiadura ar y gem hyfryd hon i’r uchelfannau.

Mae’r radio’n gyfrwng lle mae agosatrwydd yn allweddol ac yr oedd gan y dyn cymleth hwn y ddawn honno i’r eithaf.

Yr wyf i, fel miloedd o ffyddloniaid darllediau criced yr ABC, wedi colli angor i’m misoedd hafol.

Vale Peter Roebuck.

“Devastated. My dear friend and one of the greatest cricket writers ever Peter Roebuck passes away. He was meant to write about cricket in the manner Sachin Tendulkar was born to play it.”Harsha Bhogle, Sylwebydd mwya poblogaidd India.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s