Yn ol yn yr awyr

Mae’na nifer o geiriau y mae pawb yn cysylltu ag Awstralia.

Criced.

Crocodile Dundee.

Crasboeth.

A changarw.

A’r Cangarw sy’n hedfan sy gennyf mewn golwg nawr – hynny yw QANTAS.

Daeth penderfyniad i gadw 108 awyren QANTAS ar y ddaear prynhawn Sadwrn diwethaf yn sioc i bawb.

Dywedodd y cwmni (a chwmni yw e ers i dad-wladoli deagawd a mwy yn ol) yr oedd rhaid iddo fyd i’r eithaf gan fod anghydfodau gydag ambell i undeb wedi mynd o ddrwg i waeth heb fawr ddim cyfle o’u datrys.

Yn sydyn reit, yr oedd degeau o filoedd o deithwyr QANTAS yn “styc”.

Yn y diwedd, daeth gorchymyn oddi wrth y “dyfarnwr” cysylltiadau diwidiannol – yr FWA (!!) sef Fair Work Australia – i’r cwmni a’r undebau ddod yn ol i’r bwrdd, trafod pethe a’u setlo o fewn 21 diwrnod.

Ond mae hwn yn llawer mwy nag anhydfod diwidiannol.

Mae’n stori am sefydliad y genedl yn newid.

Erbyn hyn sefydliad sydd am gael yr elw mwyaf nid un sydd am chwifio baner y wlad dros y byd. Mae’r sgets hon yn llygad ei lle.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s