Llwyddiant haeddiannol, er amddiffynnol

Kia ora Cymry !

Yr oedd ‘na adeg blynyddoedd maith yn ol pan yr oedd gan y tim rygbi o Seland Newydd enw perffaith yn y Gymraeg.

Y Teirw Duon.

Yn llyfrau fel “Pencampwyr” (y llyfr cyntaf yn Gymraeg wnes i ddeall o glawr i glawr!) dyna sut yr oedd pobl yn son amdanynt.

Wn i ddim pan ddaeth y busnes Crysau Duon i mewn, ond mae llawer gwell gennyf “Teirw Duon”.

Ac ar ol eu perfformiad neithiwr yn Auckland dylai’r byd Cymraeg ail-fabwysiadu’r term.

Teirw oedden nhw a Richie McCaw yn darw gwlatgarwol i’w carn yn goron ar y cyfan.

Fe arweiniodd ei gyd-flaenwyr wrth iddyn nhw wrth-sefyll pwysau’r Ffrancod.

Yr oedd yn gem hen ffasiwn ac yr oeddwn i – a sawl un arall – wrth fy modd.

Braf oedd gweld “ysbryd” yn lle “brand” yn ennill y dydd.

Peth pwysig i wlad fach yw ennill lle ar lwyfan y byd am dipyn.

A gwlad fach yw Seland Newydd er ei maint daearyddol.

Prin pedair miliwn o kiwis sy’n byw yno, mae’na filynau eraill yn byw yma yn Oz ac ar draws y byd.

Iwerddon y de yw SN mewn sawl ystyr, mae hi wedi colli ac mae hi’n dal i golli rhai o’i phobl orau oherwydd pwysau economaidd.

Ond boed yn  Whangarei, Invercargill, Bondi neu Gasnewydd mae’r kiwis yn unedig wrth fwynhau ennill y “Bill”.

Ac ar ol chwe wythnos o Gwpan y Byd mae’r gweddill ohonom yn gwybod llawer mwy am Seland Newydd sydd ohoni, yn enwedig eu eu hieithoedd.

Fe fydd y dathliadau’n para am dipyn ar bob ynys Seland Newydaidd !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s