Wyau lledr

Yn ol arbennigwyr Wicipedia “Gardd Eden yw lleoliad y Baradwys Ddaearol yn y Beibl a’r Torah.”

Yn ol nifer sylweddol Parc Eden yw lleoliad uffern ar y ddaear yn nhermau rygbi.

Ond er gwaethaf siom a methiant (diolch D.I.) mae gennym rhywbeth i drysori.

Fe fydd cof byw o ymdrech ddewr tim Cymru’n byw am ddegawdau wrth i’r hanes gael ei adrodd ac ail-adrodd.

Ar ei orau mae chwaraeon yn ddrama o’r radd flaenaf yn clymu elfennau byw a bod, trasiedi a hiwmor at eu gilydd.

Yr oedd y digwyddiau yn Auckland nos Sadwrn cystal ag unrhyw berfformiad yn La Scala neu’r Old Vic.

Er i’r canlyniad ein siomi ni o ran “rhifau”, yr oedd y gem yn rhywbeth arbennig iawn i fod yn rhan ohoni – boed yn chwaraewr, rhywun yn gwisgo het coch a gwyn neu … yn ddyfarnwr.

Gem yw gem wrth gwrs, ond yr wyf yn credu bod’na wersi i’w dysgu trwy gyfrwng byd y campau.

 

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s