Wythnos fawr DIWEDDARIAD

RHYBUDD:  Dangosir gwleidyddion yn cusanu ar y blog hwn.

Na, nid son am y bel hir-gron ydwyf.

Son am wythnos fawr sydd o flaen y Gymraes enwoca yn y rhan hon o’r byd, sef Julia Gillard.

Yr wyf wedi crwydro ymhell o feysydd sych y dadlau ffyrnig di-glem ein gwleiddyddion annwyl.

Ond rhaid i mi ddychwelyd i shenanigans Canberra.

Fe allai’r wythnos hon benderfynu tynged y ferch ben-goch o’r Barri.

Mae deddfwriaeth sydd yn ymwenud a chodi treth ar carbon o flaen y senedd am y tro cyntaf yn ogystal a chynnig i newid y rheolau parthed trin ffoaduriaid sy’n cyrraedd ein hafordir hir mewn gwledydd eraill.

Ac ar ben hynny mae’na son byth a hefyd am y cyn-Brif Weinidog Kevin Rudd yn herio JEG am yr arweinyddiaeth.

Mae’r rhan gyntaf y driptych wedi cyrraedd.

Ddoe, fe basiwyd y mesur trethol.

Ond nid yw hwnnw wedi cryhau sefyllfa Julia Gillard rhyw lawer.

Yn ol y pol piniwn diweddara mae Llafur yn dal ymhell y tu ol i’r Glymblaid Geidwadol.

Ond mae gwaelod y twll gwleidyddol wedi’i gyrraedd.

Mae rhifau Llafur ar i fyny o’r diwedd.

Ac ar ben hynny, ni fydd gwrthdystiadau’n erbyn y gyfundrefn dreth newydd yn oriel cyhoeddus y Senedd yn hwb i Tony Abbott a’i griw wrth i’r cyhoedd ddechreu meddwl amdanynt fel y llywodraeth nesaf.

Ond mae pethe’n ddu iawn ac mae’na sawl AS Llafuraidd sy’n meddwl bod y gwahaniaeth rhwng crasfa a thrychineb etholiadol yw …. Kevin Rudd.

Ond am y tro mae’r ddau – Julia a Kev – yn ffrindiau – ond nid cyfeillion !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s