C’mon S4C DIWEDDARIAD

Beth yw’r Gymraeg am  hobby-horse ?

Nid yw Google Translate yn llawer o gymorth.

“Hobi-ceffyl” … Mmmm.

(A methiant llwyr hefyd oedd f’ymgais i gael y gair Cymraeg am “Antidisestablishmentarianism”. 

Ta waeth, mae datblygiad technolegol newydd gan y BBC wedi tynnu fy “hobi-ceffyl” o’r stabl unwaith eto.

Yr wyf wedi blogio o’r blaen am fethiant S4C i roi eu rhaglenni ar-lein i’r sawl sy’n byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Wel, mae’r bois y BBC wedi creu App (ai Ap??) sy’n cyflwyno cynnyrch y Gorfforaeth i’r byd trwy iPlayer.

Dyma ddechreu’r diwedd i deledu ar-yr-awyr yn y rhan hon o’r byd tybiwn i.

Yma yn Awstralia (ac yn Seland Newydd) mae rhaglenni Prydeinig ac Aemricanaidd yn fara menyn ein sianeli.

Unwaith y ceir rhaglenni o’r fath ar-lein dros y byd i gyd ni fydd y gwylwyr yn dioddef aros ac aros amdanynt ar yr ABC a TVNZ.

Ond, mae’na wastod “ond” ond oes e ?

“This service is English language only. Programme availability is subject to change and may not be the same in all countries.”

Felly nid yw 520 awr y flwyddyn o raglenni Cymraeg y BBC yn haeddu lle ar yr App newydd, heb son am gynnyrch  y BBC  yng  Ngwyddelig a Gaeleg .

Mmmmmmm.

E-bost ar ei ffordd i’r G.Dd.B !!!

Yn y cyfamser, y cwestiwn sydd gennyf yw: ble mae’r App (Ap…) S4C ???

4 Sylw

Filed under Uncategorized

4 responses to “C’mon S4C DIWEDDARIAD

  1. Rhys

    Yn ol y son, mae rhai rhaglenni ar SS4C Clic ar gael tu allan i’r DG, ond dw ddim yn gwybod pa rai na sut mae pobl i fod i ffeindio allan!

  2. Gwydion Lyn (S4C)

    Rhys ac Andy

    Gellid gweld pa raglenni sydd ar gael drwy glicio ar http://www.s4c.co.uk/clic/c_index.shtml ac ar yr ochr chwith mae’n nodi rhaglenni sydd ar gael tu allan i’r DU.

    • fullcatastrophe

      Rhestr go fach yw hi ar y gorau. Y cwyn sydd gennyf yw fi mod i’n ddigon bodlon i DALU am hyn a hyn o gynnrych y sianel. Os ‘na rhan o App newydd iPlayer sy’n cyflwyno rhaglenni Cymraeg ac yn y blaen???? Yr wyf am ofyn y cwestiwn hwnnw yn syth bin….diolch am ymateb :)))

      • fullcatastrophe

        iPlayer newydd y BBC
        “This service is English language only. Programme availability is subject to change and may not be the same in all countries.”

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s