Y Cochion a’r Tun-Gacen

Am Gwpan y Byd !!

Am dim da !

Tra roedd y rhann fwayf ohonoch yn gwisgo eich slippers tra’n gwylio’r gem fawr yn erbyn y Gwyddelod yr roedden ni – trigolion ffodus Oz – yn cael gweld hynt a helynt Wellington yn ystod prynhawn hwylus o ddydd Sadwrn.

Y tro diwethaf i mi fod ym mhrifddinas Seland Newydd yr oedd y Cymry’n chwarae Iwerddon am bencampwriaeth y Chwe Gwlad ac mae gennyf gof  byw o ddathliadau’r Cymry alltud a’r backpackers !

Ac wedi i ni weld y gem fach o rygbi honno aethom i weld gem fawr o griced – SN yn erbyn Awstralia – ar faes hyfryd y Basin Reserve.

Mae meysydd chwarae Wellington yn ddiddorol.

Tan yn ddiweddar iawn chwaraewyd gemau prawf rygbi yn Athletic Park.

Stadiwm ryfedd iawn ac un llawn hanes oherwydd ei natur fel “adeilad” a’i natur daearyddol.

Mae Wellington yn lle gwyntog iawn ac roedd AP yn lle gwyntog iawn iawn !!

Yr oedd yn ddigon o her i’r chwaraewyr, ond i’r torf a eisteddodd yn seddi uchaf yr eisteddle tal di-do yr oedd yn brofiad brawychus ar adegau.

Ond erbyn hyn mae Athletic Park ond yn atgof ac mae’na stadiwn fodern yn ei lle.

Wellington Regional Stadium yw hi yn swyddogol ond y “Cake Tin” ar lafar gwlad oherwydd ei siap.

Mae’n enghraifft da o adeiladu a datblygu synhwyrol.

Nid “set Mecanno” mohoni.

Gellir cerdded yn hwylus braf o Orsaf Wellington ar hyd llwybrau a phontydd yn syth i’r stadiwn a saif ar lannau’r harbwr.

Mae’n rhan newydd a phoblogaidd o ddinas sydd tua’r un maint a Chaerdydd ac sy’n teimlo fel prifddinas.

Mae hi hefyd yn lle sydd bellach yn rhan o hanes rygbi Cymru.

Ymlaen i Eden Park a’r divertissement nesaf !

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s