Siop o flaen ei amser

Mae gennyf orddibyniaeth.

Wel, dyna’r hyn mae’r llyfr bach coch a brynais yng nghanol Melbourne yn dweud wrthyf.

(addiction n ymroddiad, gorddibyniaeth, tueddiad)

Do, fe brynais Geiriadur Collins Cymraeg – ac mae’n hen bryd hefyd !!!

Siopa yw fy ngorddibyniaeth … wel fy ngorddibyniaeth heddiw !

Roeddwn yn siopa mewn siop a oedd yn llawn top gyda llyfrau a recordiau ym mhob iaith dan haul.

Siop y Pethe Byd Eang !

Ers 1938 mae Siop Lyfrau Ieithoedd wedi gwasanaethu’r sawl sydd am ddysgu iaith newydd a’r sawl o bell sydd wedi ymgartrefu yn y ddinas hon.

1938 !  Pryd hynny yr oedd Mebourne ac Awstralia ar eu mwyaf Eingl-Wyddelig (gda thamaid o ddylanwad Albanaidd …. a Chymreig).

Ond roedd ‘na bobl gyda digon o weledigaeth i sefydlu rhywbeth chwyldroadol a phwysig.

Erbyn 2011 mae’r weledigaeth dan fygythiad.

Fe wnes i sylwi bod y silffoedd yn hanner gwag ac yr oedd  ‘na “sale” ymlaen.

Arwyddion gwael tybiwn i.

Mae canol Melbourne wedi colli pedair siop lyfrau o wir safon yn ystod y bum mlynedd yr wyf wedi bod yn byw yma.

Ofnaf fod dyfodol y “Foreign Language Bookshop” a saif ar Collins Street – prif stryd Melbourne – yn y fantol.

Ac fel un sy’n defnyddio Amazon a Gwales.com yn reit aml, yr wyf yn cyfrannu at dranc y siop lyfrau draddodiadol.

Fe fyddai colli yr FLB yn golled enfawr i’m dinas a’i thrigolion.

Felly mae’n rhaid i mi, a sawl un arall, wneud yr hyn y dylen ni wneud gyda’n hieithoedd.

Use it or lose it.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s