Amheuon

Nid wyf am eiliad am wadu y newid enfawr a ddigwyddodd i’n byd oherwydd ymosodiadau’r 11eg o Fedi 2001.

Nid oes rhaid i arbennigwyr neu ohebyddion f’argyhoeddi o hynny.

Ond a oes rhaid i ni gael oriau ac oriau o siarad, tudalennau a thudalennau o erthyglau edrych yn ol ?

Yn nyddiau newyddion teledu di-derfyn a ffynhonellau newyddion di-ri  ar-lein mae’n rhaid dod o hyd i “cynnyrch” pob munud er mwyn cadw cynulleidfa.

Dyna’r busnes cyfathrebu i chi.

O ganlyniad nid yw pob ymdrech newyddiadurol neu wleidyddol i goffhau’r diwrnod wedi bod yn anrhydeddus.

Wedi’r holl oriau o raglenni ac erthyglau “arbennig” a ydym yn deall  y diwrnod yn well neu’n gliriach ?

Cynnig cysur a chynnig dealltwriaeth yw pwrpas coffhau yn fy marn i.

Onid yw oedi a chofio, oedi a phendroni’n well deyrnged na siarad, ail-wampio a mwy o siarad ?

Rhaid bod ‘na “werth” i goffhau, hebddo nid oes dim byd ond gwacter o bob math.

Gweithred go iawn sy angen nid perfformiad.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s