Parti te

Mae llawer yn dadlau bod Awstralia’n symud ymhellach o’i gwreiddiau Prydeinig ac yn fwy-fwy ymddwyn fel talaith answyddogol o’r Unol Daleithiau.

Wel, dyma dystiolaeth ychwanegol: mae rhywrai yn ceisio sefydlu Parti Te, sef plaid sy’n pardduo gwleidyddion am eu bod yn wleidyddion.

Plaid y Bar Cyhoeddus fyddai enw gwell yn fy marn i am fod pob problem yn y byd yn gallu cael eu datrys gan selogion unrhyw far cyhoeddus mewn tafarn.

Neu Plaid y Gyrrwyr Tacsi.

Dewch ‘mlaen bobl, rhaid gwynebu realiti’r byd.

Mmmm.

Dyma daflen o waith y Parti Te a dyma’r canlyniad.

(Mae

Bodoli ar ymylon y bywyd cyhoeddus ydy’r Parti Te ar hyn o bryd, ond mewn gwlad lle gorfodir POB dinesydd bleidleisio mae’n weddol hawdd dychmygu y dirwedd wleidyddol yn newid yn gloi ac yn afiach.

Ac fe allai safon dadlau’r brif bleidiau wneud y sefyllyfa’n waeth.

Mae’r sgrifen ar y mur yn ol gohebydd y BBC Nick Bryant

Wrth ffarwelio ag Awstralia ysrifenodd ” There is something very dismal and second-rate about the quality of politics  …  I have found it so hard to report on Canberra – in recent times, it has made a mockery of the sophisticated, modern and relevant country that is evident elsewhere.”

Yr wyf yn byw mewn gobaith, OND nid yw democratiaeth gorllewinol yn bodoli am ei fod yn “beth da” (Chwedl  “1066 And All That“).

Unwaith mae’r etholwyr yn teimlo’n angysylltiedig a democratiaeth mae’na drwbl ar y gorwel.

Pe tai pethe’n mynd hyd yr eithaf na fydd yn “barti te”.

Advertisements

Rhowch sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s