Cyfraith a threfn

Wedi treulio degau o flynyddoedd o wylio’r syniad o gyfiawnder o’r tu allan fel newyddiadurwr a gwyliwr teledu mae’r cyfle wedi cyrraedd o fod yn rhan ohono.

Yfory (Medi 1af) fe fyddaf ar gael i fod yn aelod o reithgor yn llysoedd Melbourne.

Rhag ofn bod rhyw swyddog llysol yn medru’r Gymraeg nid wyf am ddweud gair am yr hyn y disgwylaf brofi, ond rhaid i mi ddweud fy mod yn hynod “excited”.

Wrth i mi heneiddio yr wyf yn fwy-fwy meddwl bod rhaid i ni gyd dderbyn ein cyfrifoldebau cymdeithasol a chymunedol.

Mae’r gyfundrefn gyfreithiol yn gonglfaen i’n ffordd o fyw a bod….a’n sgriniau teledu.

Fel newyddiadurwr mae’n ddigon bosibl na fyddaf yn cael fy menodi i fod yn un o’r dwsin, ond mae bod yn rhan o’r holl beth yn ddigon diddorol a heriol.

Mae’r siwt gwyn yn barod !!

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s