Hel straeon

Maddeuwch i mi am beidio blogio am dipyn, ond nid yw’r dyddiau diwethaf wedi bod yn hawdd.

Roedd colli tri o’m cyd-weithwyr yn yr ABC (Gorfforaeth Ddarlledu Awstraliaidd) yn ergyd drom.

Aeth y storiwr penigamp Paul Lockyer, y  dyn camera crefftus John Bean a’r peilot unigryw  Gary Ticehurst ar drywydd stori ym mhellafion anialwch De Awstralia.

Wrth i’r machlud gyrraedd aeth rhywbeth erchyll o’i le a daeth eu hofrennydd i’r ddaear yn sydyn.

Bu farw’r drindod hoffus hon.

Er bod yr ABC yn sefydliad go fawr – tua 3,000 o weithwyr – rhywffordd neu gilydd yr oedd y tri wedi cyrraedd pob cornel ohono.

Roedden ni gyd wedi cwrdd ag o leiaf un ohonynt, yn f’achos i yr oeddwn i wedi dysgu llawer wrth weithio gyda Paul …. Lockers fel roedd e ar lafar gwlad ystafelloedd newyddion.

Rown i’n nabod Gary hefyd yn ystod f’amser yn Sydney tra yr oedd John Bean yn adnabyddus am ei ddawn tynnu lluniau o bob math.

Yr oedd natur marwolaethau’r tri yn ein gorfodi ni i ddelio a fe mewn ffordd newyddiadurol yn ogystal a modd bersonol.

Fe wnes i fy ngwaith hyd y gallaf, yr wyf yn dal i ddelio a’r pethau eraill.

Yr wyf wedi sgwennu o’r blaen am golli rhywun.

“Nid oes dwywaith bod marwolaeth yn eich gorfodi i feddwl am fywyd … trwy’r dagrau a’r poen, a ydynt yn dysgu rhywbeth sylweddol o’r bywyd sy newydd ein gadael ni ?”

Tri bywyd sydd newydd ein gadael.

Yr oedd eu cyfranniadau’n sylweddol.

Gohebydd, gwr camera a pheilot OND pob un yn gweld gwerth adlewyrchu ein byd a’r bobl o’u cwmpas (cefn gwlad Awstralia’n arbennig) a son amdanynt.

Rhaid i ni – pobl y cyfryngau – ddysgu eu gwersi a’u trysori nhw.

Gwersi syml ond hynod bwysig.

Edrych, meddwl, gofyn, dweud.

Hanfod hel straeon.

Vale Paul, Gary a John.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s