Ty o radd flaenaf

Yr wyf yn gwylio dadl Ty’r Cyffredin  ar y terfysgoedd yn Lloegr (ac mae’n werth nodi mai yn Lloegr mae’r terfysgoedd wedi digwydd) ac mae’n rhaid i mi ddweud bod yr hen San Steffan wedi dangos ei ochor orau.

Dyma ddadl go iawn.

Aelodau Seneddol o feinciau’r llywodraeth yn gofyn cwestiynau lletchwith, yr wrthbleidiau’n canmol y sawl sy’n llywodraethu a’r syniad mai hwn yw “ty” y bobl.

Ac ar ben y cyfan Daibhidh Camshron yn perfformio’n hynod effeithiol.

Mae digwyddiadau’r dyddiau diwethaf wedi fy nhrysu’n llwyr ar wahan i bendroni am sylwadau Margaraet Thatcher am ddiffyg cymdeithas.

Yn fy ngartref bach diogel a chynnes mae’n hawdd dweud OND ai diweddglo (neu agorawd) i flynyddoedd o gael a chael a mwy o gael yw’r hyn sy wedi digwydd.

Cyffur yw prynu a phrynu ar y nefar-nefar. Cyffur llawer mwy peryglus na heroin neu meth.

Nid aur yw popeth melyn … neu setiau teledu sgriniau llydan neu gyfrifiaduron neu sgidiau Addidas neu bethe sy ddim wrth reddf.

Baban rhieni aeth trwy’r dirwasgiad mawr A’R Ail Ryfel Byd yr ydwyf … ac yr wyf yn falch o’r gwerthoedd sy’n tarddu ohonynt.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s