Cyfri’r genedl DIWEDDARIAD (bach)

Mae diwrnod y cyfrifiad newydd basio.

Ddoe, dydd Mawrth, y cynhalwyd cyfrifiad diweddara Awstralia – mae’na un pob pum mlynedd.

Ac yr oeddwn i un o’r sawl wnaeth lenwi’r ffurflen hir ar-lein … ar y trydydd cynnig !

Roedd rhai o’r cwestiynau i’w disgwyl: rhyw, oedran, sefyllfa waith ac yn y blaen.

Ond roedd’na bwyslais ar faterion anniswgyl hefyd.

Llu o gwestiynau ar gyfrifoldebau i gynnal bywydau unrhyw un sy’n dioddef afiechyd o wahanol fathau.

Ac ar ben hynny, cwestiwn am ieithoedd.

Pa ieithoedd a siaradir yn y ty ar wahan i’r Saesneg ?

A pha mor dda yw eich Saesneg ?

F’atebion i oedd “Cymraeg” (fi a’r tedis yn byrlymu gyda’r Gymraeg, Tudful yn ffan mawr o “Taro’r Post) a “gweddol” (rhaid dweud y gwir).

Ac o fewn ugain munud yr oedd fy rhan yn yr Awstralia sydd ohoni wedi’i datgan trwy wasgu botwm.

A dyna gyfanswm fy ngwaith dros y dyddiau diwethaf.

Mae annwyd ofnadwy o drwm arnaf ar hyn o bryd … boed yn Oz neu Wrecsam mae’r ffliw yn boenus ar y naw.

Rho sylw

Filed under Uncategorized

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s